Cyfrifo a thalu budd-daliadau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu ceisiadau dilys yn gywir ac mewn da bryd. Bydd angen i chi allu gweithredu'r rheoliadau perthnasol mewn ffordd effeithlon, effeithiol, teg a phroffesiynol. Mae'n bwysig deall anghenion ymgeiswyr a bod yn eglur a chywir yn eich gweithgareddau prosesu. Gallai gwaith prosesu anghywir arwain at golli cymorthdaliadau. Mae'r uned hon yn cynnwys cyfrifo symiau sy'n daladwy, a dewis a defnyddio'r gweithdrefnau talu cywir.
Yn y safon hon, mae'r term 'ceisiadau' yn cynnwys hawliadau am fudd-dal tai a gostyngiadau yn y dreth gyngor.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 cyfrifo hawliau i fudd-daliadau yn unol â'r gofynion statudol perthnasol, y gyfraith achosion berthnasol, a gweithdrefnau lleol
P2 rhoi hysbysiadau penderfynu i bob parti perthnasol yn unol â'r gofynion statudol perthnasol
P3 hysbysu ymgeiswyr am unrhyw hawliau i apelio sydd ganddynt o bosib
P4 talu budd-daliadau yn unol â'r gofynion statudol a'r gweithdrefnau lleol perthnasol
P5 cofnodi'n gywir y camau gweithredu i sicrhau cymorthdaliadau y mae'r awdurdod yn eu hawlio neu i atal y llywodraeth rhag hawlio cymorthdaliadau yn ôl
P6 gwneud argymhellion ar unrhyw geisiadau i ôl-ddyddio hawliadau yn unol â chanllawiau swyddogol ac ystyried unrhyw reswm da dros wneud hynny
P7 prosesu tandaliadau lle bo'n ofynnol a rhoi gwybod i'r ymgeisydd am unrhyw daliadau ychwanegol sy'n ddyledus iddynt o ganlyniad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Y Fframwaith Statudol
**K1 y gofynion statudol perthnasol sy'n ymwneud â hawliau i fudd-daliadau a'u taliad a gostyngiad yn y dreth gyngor
K2 sut i gyfrifo a thalu gwahanol geisiadau
K3 cynnwys hysbysiadau penderfynu
K4 hawliau'r partïon perthnasol i apelio yn erbyn penderfyniad
K5 risgiau posibl i hawl yr awdurdod i gael cymorthdaliadau gan y llywodraeth sy'n codi o daliadau a wneir i ymgeiswyr
**Yr Amgylchedd Budd-daliadau
**
K6 y mathau a'r ffurfiau o hysbysiadau penderfynu
K7 sut y gallai eich camau gweithredu, a'ch gwaith o'u cofnodi, effeithio ar gymorthdaliadau y mae'r awdurdod yn eu derbyn gan y llywodraeth neu sy'n cael eu hawlio yn ôl gan yr awdurdod
K8 dulliau talu
K9 rhesymau pam y gall tandaliadau a gordaliadau ddigwydd
K10 y meini prawf sy'n ymwneud â therfynau amser ac amlder taliadau budd-daliadau
K11 y rheolau a'r cynlluniau sy'n ymwneud â thalu budd-daliadau i ymgeiswyr a thrydydd partïon
K12 y gweithdrefnau talu pan fydd hawliwr farw
K13 gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddiogelu data berthnasol
K14 at bwy i gyfeirio materion nad ydynt o fewn eich cyfrifoldeb neu'ch cylch gwaith