Gwerthuso ceisiadau am fudd-daliadau

URN: ASTLB1
Sectorau Busnes (Suites): Gweinyddu Refeniw Lleol a Budd-daliadau
Datblygwyd gan: Asset Skills
Cymeradwy ar: 31 Hyd 2013

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'r cam cychwynnol yng ngwaith prosesu ceisiadau am fudd-daliadau, grantiau a gostyngiadau a gwirio i weld a ydynt yn gywir ac yn ddilys. Mae'n cynnwys canfod a chasglu gwybodaeth a gwerthuso'r wybodaeth a geir.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1  penderfynu ar gymhwysedd yr ymgeisydd i dderbyn y budd-daliadau a hawlir yn unol â'r gofynion statudol perthnasol a gan gyfeirio at unrhyw geisiadau blaenorol
P2  cadarnhau fod pob un o'r ceisiadau wedi'u hategu gan dystiolaeth ddigonol, ddilys a pherthnasol a gweithredu'n brydlon i gael gafael ar unrhyw wybodaeth sydd ar goll lle mae'r dystiolaeth yn annigonol
P3  cynnig cyngor neu help addas lle mae ymgeisydd angen cymorth i wneud cais
P4  ymgynghori â'r holl gyrff allanol priodol i ddilysu'r cais ac i benderfynu arno os nad oes dogfennau ategol uniongyrchol
P5  gwirio'r manylion yn y cais cyfredol i sicrhau eu bod yn cyfateb ag unrhyw gofnodion wedi'u cadarnhau, gan sicrhau bod rheswm dilys dros unrhyw newidiadau
P6  cyfeirio unrhyw faterion at yr unigolyn priodol lle mae anghysonderau neu nodweddion anarferol a allai awgrymu cais twyllodrus
P7  ceisio rhagor o dystiolaeth ategol, lle nad yw dogfennau ac ymgynghoriad yn ategu mater y cais
P8  hysbysu'r parti priodol yn rhagweithiol am unrhyw fudd-daliadau, grantiau a gostyngiadau, neu daliadau dewisol eraill, y byddai ganddo ef neu ganddi hithau'r hawl i wneud cais amdanynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

*Y Fframwaith Statudol
*

K1  y ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud â chymhwysedd ymgeiswyr i gael budd-daliadau, grantiau a gostyngiadau

Yr Amgylchedd Budd-daliadau

K2  cynnwys ffurflenni cais a'r defnydd a wneir ohonynt
K3  dulliau o wneud hawliad a chais
K4  sut i adnabod ceisiadau sy'n gywir ac yn ddilys a darganfod twyll posibl
K5  yr ystod o wybodaeth, tystiolaeth a dogfennau ategol sy'n ofynnol i gefnogi cais
K6  gweithdrefnau i wirio tystiolaeth a gwerthuso ceisiadau
K7  yr amseriadau a'r targedau lleol perthnasol ar gyfer ymdrin â cheisiadau
K8  y meini prawf sy'n ymwneud â chymhwysedd ar gyfer taliadau dewisol
K9  pa gamau y dylid eu cymryd os nad yw cais yn cwrdd â'r gofynion
K10  terfynau amser ar gyfer ailgyflwyno ceisiadau diffygiol a/neu ddarparu dogfennau ychwanegol

Y Sefydliad

K11  at bwy i gyfeirio materion nad ydynt o fewn eich cyfrifoldeb neu'ch cylch gwaith
K12  gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddiogelu data berthnasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Y Bartneriaeth Sgiliau Ariannol

URN gwreiddiol

LB1

Galwedigaethau Perthnasol

Cyllid, Cyfrifyddu a chyllid

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Gweinyddu refeniw lleol; cynnal a chadw cofnodion o eiddo; pennu atebolrwydd a'r symiau sy'n ddyledus; gweithredu gweithdrefnau ar gyfer bilio a chasglu taliadau; adfer a gorfodi symiau sy'n orddyledus; gwerthuso hawliadau am fudd-daliadau; cyfrifo a thal