Prosesu apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r awdurdod lleol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â pharatoi a phrosesu apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r awdurdod lleol a chyfathrebu'r canlyniadau i'r apelyddion. Gallai'r rhain fod yn drethdalwyr, ymgeiswyr am fudd-dal tai neu bartïon eraill yr effeithir arnynt. Mae'r uned hon yn cynnwys gwirio a wnaed y penderfyniadau cywir ac a oes achos apelio, casglu a dosbarthu'r dogfennau angenrheidiol a chyfathrebu gydag apelyddion.
Yn y safon hon, mae'r term 'trethdalwyr' yn cyfeirio at dalwyr y dreth gyngor, ardrethi domestig yng Ngogledd Iwerddon ac ardrethi annomestig.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
P1 penderfynu ar ddilysrwydd a sail yr apêl
P2 adnabod y partïon i'r apêl
P3 adolygu'r penderfyniad gwreiddiol i sicrhau ei fod yn gywir a'i adolygu os yw'n briodol
P4 prosesu'r dogfennau sy'n ofynnol ar gyfer yr apêl, lle bo'n briodol, a'u hanfon at y partïon perthnasol
P5 cyfathrebu canlyniad yr apêl i'r apelydd mewn fformat priodol ac o fewn yr amser gofynnol, lle bo'n berthnasol
P6 rhoi gwybod i'r apelydd am unrhyw hawl pellach i apelio lle mae'r apêl wedi ei gwrthod
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
**Y Fframwaith Statudol
**K1 hawl yr unigolyn i apelio yn ôl y ddeddfwriaeth
K2 paramedrau'r hyn y gellir ei apelio
Y Sefydliad
K3 y prosesau a'r gweithdrefnau penodol, a'r dogfennau gofynnol, sy'n ymwneud ag apeliadau yn eich maes o arbenigedd neu weithrediad
K4 sut i wirio i sicrhau bod penderfyniadau'n gywir ac yn cydymffurfio â'r rheoliadau
K5 gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer prosesu apeliadau
K6 y meini prawf sy'n ymwneud â phwerau'r awdurdod a hawliau'r unigolion sy'n cael eu heffeithio wrth ddelio ag anghydfodau, ailystyriaethau, ac apeliadau
K7 y meini prawf sy'n llywio'r broses apelio, gan gynnwys y terfynau amser ar gyfer apelio
K8 yr amodau sy'n llywio'r pwer i newid penderfyniadau a'r dyddiad pan ddaw'r penderfyniad newydd yn weithredol
K9 cynnwys hysbysiad penderfynu yn dilyn apêl
K10 sut i roi gwybod i apelyddion am brosesau apelio a phenderfyniadau
K11 y weithdrefn ar gyfer apelio ymhellach yn dilyn penderfyniad
K12 y gwahanol fathau o apeliadau a'u prosesau
K13 at bwy i gyfeirio materion nad ydynt o fewn eich cyfrifoldeb neu'ch cylch gwaith
K14 gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ddiogelu data berthnasol