Faq Icon

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Y cwestiynau a ddangosir yw'r mwyaf cyffredinol, Os na chewch y canlyniad rydych chi'n chwilio amdano, yna cysylltwch â ni. 

Mae SGC yn cael eu hadnabod drwy eu Rhif Cofrestru Unigryw (RhCU). Mae’r RhCU yn cynnwys nifer o lythrennau a rhifau, gyda’r 3 llythyren gyntaf yn cyfeirio at yr awdurdod datblygu, y grŵp nesaf o lythrennau yn cyfeirio at Set/Cyfres, a’r grŵp olaf o lythrennau a rhifau yw adnabyddwr y SGC unigol. Fel enghraifft, cafodd SGC gyda RhCU fel LANAgM17 ei datblygu gan Lantra (LAN), ac mae yn Set/Cyfres Rheolaeth Amaethyddol(AgM) a hon yw SGC rhif 17 yn y Set honno. 

Bydd y basdata bob amser yn dangos y SGC mwyaf diweddar oherwydd pryd bynnag y bydd SGC yn cael eu diweddaru byddant yn disodli’r fersiynau blaenorol. Bydd y SGC hŷn naill ai’n cael eu dileu yn llwyr neu’n cael eu labelu’n Legacy.  Golyga Legacy y gall y SGC fod yn dal i gael eu defnyddio mewn cymwysterau ac felly bod angen amdanynt o hyd. Gellir adnabod y rhain trwy’r gair Legacy a welir ar ddiwedd y teitl a’r llythyren L ar ddiwedd y RhCU.

Os byddwch yn ansicr ynghylch beth i chwilio amdano, defnyddiwch y Chwiliwr i edrych ar naill ai enwau Setiau/Cyfresi neu Galwedigaethau a allai fod o fewn cwmpas eich maes diddordeb. Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn amrywio o ‘Longwr Ail-ddosbarth’ (Able Seaman) i Reolwr Sŵ (Zoo Manager) gyda thua 1,000 o alwedigaethau eraill o fewn yr ystod hon. Ceir hefyd manylion cyswllt ar gyfer y Sefydliadau Pennu Safonau a allai fod o gymorth.

Ni fwriedir y SGC eu hunain fel cwricwlwm galwedigaethol, ond fe’u defnyddir i ddylanwadu ar gynnwys a datblygiad cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol SVQ/NVQ, ac mae 1 SGC yn cyfateb yn uniongyrchol i 1 uned yn y cymwysterau hyn. Gellir eu defnyddio hefyd i ddylanwadu ar gymwysterau a Safonau eraill trwy nodi’r sgiliau a’r wybodaeth y gofynnir amdanynt. I ddod yn gymhwyster rhaid i’r uned(au) gael eu cymeradwyo a’u cynnig gan Gorff Dyfarnu. Nid yw SGC yn asesu cymhwysedd nac yn pennu sut dylai’r hyfforddiant gael ei gyflawni na’i asesu – y cyrff dyfarnu a’r asiantaethau cyflawni fydd yn penderfynu hynny.

Gellir defnyddio SGC yn sail i amrywiaeth eang o weithgareddau Adnoddau Dynol – yn cynnwys recriwtio, rheoli perfformiad, dehongli anghenion am sgiliau/hyfforddiant a chynllunio a gwella sefydliadau.

Ystyr SOC yw cod galwedigaethol safonol ac maent yn dosbarthu galwedigaethau. Cafodd grwpiau galwedigaethol eu nodi ar gyfer yr holl SGC a Fframweithiau Prentisiaeth a’r rhain sy’n pennu ôl-troed y galwedigaethau sy’n cael eu cynnwys.

Ym mis Gorffennaf 2016 trosglwyddodd y Gweinidog ar y pryd yn yr Adran dros Addysg (Robert Halfron) ddiddordeb Llywodraeth y DU yn y SGC a’r Basdata SGC i Weinyddiaethau Datganoledig Gogledd Iwerddon, Cymru a’r Alban. Yn awr, mae’r basdata yn cael ei gyllido a’i lywodraethu gan y Gweinyddiaethau Datganoledig ac fe’i rheolir ar eu rhan gan Skills Development Scotland. Mae’r SGC ar gael i gyflogwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid eraill i’w cyrchu yn rhad ac ddim, waeth ymha wlad yn y DU y maent yn preswylio neu’n gweithio ynddi.