Cronfa ar gyfer yr holl Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol cymeradwy
Annwyl Randdeiliad
Yn dilyn ymarferiad gyda’r cyflenwyr rydym wedi nodi nifer o NOS sydd wedi’u marcio fel NOS etifeddol ar y gronfa ddata NOS. Er mwyn mireinio’r data sy’n cael ei gadw rydyn ni’n barod yn awr i archifo’r NOS hynny y mae cyflenwyr wedi’u cadarnhau fel rhai etifeddol ac sydd wedi’u disodli gan fersiwn mwy cyfoes. Golyga hyn tua 1,700 o NOS etifeddol. Dyma’r cyfnod cyntaf a bydd rhagor waith archifo yn digwydd yn hwyrach yn y flwyddyn.
Unwaith y bydd y NOS hyn wedi’u harchifo, fyddan nhw ddim ar gael i chi trwy’r wefan NOS gyhoeddus ac fe’ch cynghorir i lawrlwytho unrhyw NOS y bydd arnoch eu hangen erbyn y dyddiad hwn.
Gweler y rhestr atodedig o’r NOS fydd yn cael eu harchifo ynghyd â datganiad sefyllfa’r Grŵp Llywodraethu NOS ar y NOS etifeddol Position-Statement-Legacy-NOS-2025.pdf
Byddwn yn archifo’r NOS hyn ar 13 Hydref
Rydym yn eich cynghori i lawrlwytho unrhyw NOS y bydd eu hangen arnoch erbyn y dyddiad yma.
Michelle Gibson, Rheolwr Gweithrediadau Safonau a Fframweithiau
Mae'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) yn ddatganiadau o'r safonau perfformiad y mae'n rhaid i unigolion eu cyflawni wrth gyflawni swyddogaethau yn y gweithle, ynghyd â manylebau gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol.
Digwyddiadau i ddod
Ynghylch yr ymgynghoriad
Dewch o hyd i NOS yma
Sut i ddod o hyd i'r NOS cywir
3 cam hawdd i ddod o hyd i'r Safon Galwedigaethol Cenedlaethol cywir
Nodwch Allweddeiriau neu RhCU/URN
Adnabyddir SGC trwy Rif Cofrestru Unigryw (RhCU/URN) a gellir defnyddio hwn i Chwilio. Gellir defnyddio allweddeiriau ar gyfer set ehangach o ganlyniadau.
Dewiswch Sector Busnes (Set)
Caiff SGC eu grwpio yn Setiau sy’n perthyn i’r sector y gellir eu defnyddio ynddo. Amrywiant o ran eu nifer, gan ddibynnu ar anghenion y sector.
Dewiswch Alwedigaeth
Alinir y SGC i’r galwedigaethau perthnasol pan fyddant yn cael eu datblygu ac mae Chwilio yn ôl y rhain yn rhoi i chi set ehangach o ganlyniadau chwilio.
Defnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
Gellir defnyddio SGC mewn llawer o ffyrdd
Cyflogwyr
Creu safonau cymhwysedd ar gyfer rolau a chyfrifoldebau gweithwyr.
Ceiswyr Swyddi
Diweddaru CV, canfod gofynion swyddi o ran sgiliau a meini prawf perfformiad.
Darparwr hyfforddiant
Paratoi deunyddiau hyfforddi ar gyfer galwedigaethau penodol.
Unigolion
Ymchwilio i wahanol fathau o swyddi a gosod eu sgiliau/profiad yn erbyn y rhai sydd eu hangen.
Gweithwyr
Llunio swydd-ddisgrifiad a gwella cymhwysedd staff ar gyfer diwydiannau penodol.
Myfyrwyr
Casglu gwybodaeth ar gyfer deunyddiau astudio a dysgu gwahanol fathau o lefelau.
Sefydliad Addysgol
At bwrpas addysgu, creu deunyddiau cwrs ar gyfer myfyrwyr ac athrawon.
Gweithiwr proffesiynol AD (HR)
Llunio swydd-ddisgrifiadau ar gyfer recriwtio staff newydd neu gynllun hyfforddi ar gyfer gwahanol fathau o swyddi.