Cynllunio, rheoli ac addasu rhaglen o weithgareddau ymarfer a chorfforol
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio, rheoli ac addasu rhaglen o ymarferion a gweithgareddau corfforol ar gyfer cyfranogwyr a atgyfeirir fel unigolion neu grwpiau, yn cyflwyno â chyflyrau meddygol amrywiol a all fod yn sengl neu'n lluosog. Mae'n cynnwys y sgiliau a gwybodaeth sylfaenol sydd eu hangen i weithio o fewn system atgyfeirio ar gyfer ymarferion.
Prif ganlyniadau'r safon hon yw:
dadansoddi gwybodaeth a gesglir a chytuno ar nodau gyda chyfranogwyr a atgyfeirir
cynllunio, paratoi a rheoli rhaglen o ymarferion a gweithgareddau corfforol gyda chyfranogwyr a atgyfeirir
adolygu cynnydd gyda chyfranogwyr a atgyfeirir
addasu rhaglen o weithgareddau ymarfer a chorfforol gyda chyfranogwyr a atgyfeirir
Mae'n rhaid ichi gynnwys yr wybodaeth graidd ynghylch ymarfer corff a ffitrwydd a dealltwriaeth ddamcaniaethol fel y manylir arnynt yn y ddogfen Gofynion Gwybodaeth Graidd ynghylch Ymarfer a Ffitrwydd SkillsActive sy'n berthnasol i rôl y swydd.
Mae'r safon hon ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym meysydd ymarfer a ffitrwydd sy'n cynllunio, rheoli ac addasu rhaglenni o ymarferion a gweithgareddau corfforol gyda chyfranogwyr a atgyfeirir.
Byddant fel arfer yn gweithio heb oruchwyliaeth uniongyrchol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dadansoddi gwybodaeth a gesglir a chytuno ar nodau gyda chyfranogwyr a atgyfeirir**
1. sicrhau bod cyfranogwyr wedi'u cymeradwyo i gymryd rhan mewn cynllun atgyfeirio ar gyfer ymarferion.
2. cyfeirio at wybodaeth a ddarperir i gyfranogwyr gymryd rhan mewn cynllun atgyfeirio ar gyfer ymarferion
3. trafod gyda chyfranogwyr fuddion iechyd gweithgarwch corfforol ar gyfer eu cyflyrau**
4. cytuno ar nodau gyda chyfranogwyr mewn cysylltiad â'u hanghenion, cyflyrau a chyfnod eu parodrwydd i newid
5. gosod nodau SMART gyda chyfranogwyr
**
**
Cynllunio, paratoi a rheoli rhaglen o ymarferion a gweithgareddau corfforol gyda chyfranogwyr a atgyfeirir
6. cynllunio rhaglen sy'n cwrdd ag anghenion gallu a lefel ffitrwydd cyfranogwyr
7. gweithredu'r egwyddorion hyfforddiant i helpu cyfranogwyr i gyflawni eu nodau
8. nodi ystod o ymarferion a/neu weithgareddau corfforol a fydd yn galluogi cyfranogwyr* i gyflawni eu nodau*
9. sicrhau bod ymarferion a/neu weithgareddau corfforol yn gyson â chanllawiau a argymhellir ar gyfer eu cyflyrau
10. cytuno ar gynnwys y rhaglen gyda'r cyfranogwyr
11. cytuno ar ddulliau gwerthuso'r rhaglen gyda'r cyfranogwyr
12. cytuno ar ddyddiadau adolygu rheolaidd gyda'r cyfranogwyr
13. nodi'r adnoddau a chyfleusterau sydd arnoch eu hangen
14. darparu dewisiadau eraill y gellir eu hymgorffori mewn ffordd bob dydd o fyw os na all cyfranogwyr gymryd rhan mewn ymarferion a/ neu weithgareddau corfforol sydd yn y rhaglen
15. cofnodi'ch cynlluniau mewn fformat hygyrch a fydd yn eich helpu chi, y cyfranogwyr* a gweithwyr proffesiynol eraill* i weithredu'r rhaglen
16. cefnogi cyfranogwyr mewn ffordd a fydd yn hyrwyddo newid parhaol o ran ymddygiad yn ystod gweithgarwch corfforol
17. rheoli risg i gyfranogwyr trwy gydol y rhaglen
**
**
**
**
Adolygu cynnydd gyda chyfranogwyr a atgyfeirir**
18. monitro ac adolygu cynnydd cyfranogwyr** ar bwyntiau cytun yn y rhaglen
19. cytuno ar bwrpas yr adolygiad gyda chyfranogwyr
20. annog cyfranogwyr i roi eu barn eu hunain ar gynnydd
21. darparu adborth i gyfranogwyr
22. nodi unrhyw newidiadau i'r rhaglen o ganlyniad i'r adolygiad
23. cadw cofnod o adolygiad y rhaglen
24. cyfathrebu canlyniadau'r adolygiad i weithwyr proffesiynol eraill sy'n gysylltiedig â'r rhaglen
**
Addasu rhaglen o weithgareddau ymarfer a chorfforol gyda chyfranogwyr a atgyfeirir
25. nodi nodau** sydd angen eu hailddiffinio
26. nodi ymarferion a/neu weithgareddau corfforol sydd angen eu haddasu
27. cytuno ar addasiadau gyda chyfranogwyr
28. nodi goblygiadau unrhyw addasiadau ynghylch adnoddau
29. cyflwyno addasiadau mewn ffordd sy'n cwrdd ag anghenion y cyfranogwyr
30. cofnodi manylion ynghylch addasiadau i'r rhaglen
31. monitro effeithiolrwydd eich addasiadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Dadansoddi gwybodaeth a gesglir a chytuno ar nodau gyda chyfranogwyr a atgyfeirir**
1. y weithdrefn ar gyfer gwirio bod cyfranogwyr wedi'u cymeradwyo i gymryd rhan mewn cynllun atgyfeirio ar gyfer ymarferion.
2. buddion iechyd gweithgarwch corfforol ar gyfer cyflyrau cyfranogwyr
- sut mae sicrhau bod nodau a gytunwyd gyda chyfranogwyr yn cwrdd â'u hanghenion, cyflwr/cyflyrau a chyfnod eu parodrwydd i newid
4. sut mae gosod nodau SMART
**
**
Cynllunio, paratoi a rheoli rhaglen o weithgareddau ymarfer a chorfforol gyda chyfranogwyr a atgyfeirir
5. sut mae sicrhau bod y rhaglen arfaethedig yn gyson â gallu a lefelau ffitrwydd y cyfranogwyr
6. yr egwyddorion hyfforddiant a sut mae'n rhaid eu gweithredu er mwyn helpu cyfranogwyr i gyflawni eu nodau
7. dulliau paratoi ar gyfer rhaglen hyfforddiant sy'n ddiogel ac effeithiol
8. ymarferion a gweithgareddau corfforol a fydd yn galluogi cyfranogwyr i gyflawni eu nodau
- ffynonellau arfer da derbyniedig a chanllawiau a argymhellir ar gyfer cyfranogwyr
10. pam bod arnoch angen cytuno ar gynnwys y rhaglen gyda chyfranogwyr cyn i'r rhaglen gychwyn
11. sut mae cynllunio'r broses o werthuso'r rhaglen
12. pryd i osod dyddiadau adolygu
13. y mathau o adnoddau a chyfleusterau y bydd arnoch eu hangen i gyflenwi'r rhaglen
14. yr addasiadau y gellir eu gwneud os na all y cyfranogwyr gymryd rhan yn y sesiwn a/neu'r gweithgaredd fel y'i bwriadwyd
15. cofnodi gweithdrefnau a fydd yn eich helpu chi, cyfranogwyr a gweithwyr proffesiynol eraill i weithredu'r rhaglen
16. dulliau cefnogi cyfranogwyr mewn modd effeithiol a fydd yn hyrwyddo newid parhaol o ran ymddygiad yn ystod gweithgarwch corfforol
17. gweithdrefnau rheoli risg
**
**
Adolygu cynnydd gyda chyfranogwyr a atgyfeirir**
18. gweithdrefnau ar gyfer monitro cynnydd y cyfranogwyr
19. arwyddocâd gosod pwyntiau cytûn drwy gydol y rhaglen er mwyn adolygu cynnydd
20. pam mae angen i gyfranogwyr ddeall pwrpas yr adolygiad
21. dulliau annog cyfranogwyr i roi eu barn ar gynnydd
22. sut mae darparu adborth cadarnhaol ac amserol i gyfranogwyr
23. sut mae addasu'r rhaglen yn seiliedig ar ganlyniadau'r adolygiad
24. dulliau cadw cofnodion cywir
25. pam y [stet] gyfathrebu canlyniadau'r adolygiad i *weithwyr proffesiynol eraill *sy'n gysylltiedig â'r rhaglen
26. arfer gorau'r diwydiant ar gyfer monitro a gwerthuso cynnydd cyfranogwyr
**
**
Addasu rhaglen o weithgareddau ymarfer a chorfforol gyda chyfranogwyr a atgyfeirir
27. dulliau addasu'r rhaglen ar gyfnodau rheolaidd a pham y dylech ddarparu diweddariadau i gyfranogwyr yn barhaus
28. sut mae nodi nodau sydd angen eu hailddiffinio
29. sut mae nodi ymarferion a/neu weithgareddau corfforol sydd angen eu haddasu
30. pryd i gwblhau addasiadau i'r rhaglen
31. sut mae nodi goblygiadau unrhyw addasiadau ynghylch adnoddau
32. sut mae cyflwyno addasiadau mewn ffordd sy'n cwrdd ag anghenion cyfranogwyr
33. cofnodi gweithdrefnau ar gyfer addasiadau i'r rhaglen
34. gweithdrefnau ar gyfer monitro effeithiolrwydd eich addasiadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Cyfranogwyr a atgyfeirir
**
- unigolion dan atgyfeiriad meddygol
- unigolion ag anghenion penodol ynghylch ffitrwydd, dan atfgyfeiriad meddygol
- unigolion ag anghenion penodol ynghylch iechyd, dan atgyfeiriad meddygol
- unigolion anweithredol, dan atgyfeiriad meddygol
- grwpiau o unigolion dan atgyfeiriad meddygol
**
**
Gwybodaeth
**
- ffurflen atgyfeirio
- cydsyniad deallus i gymryd rhan a throsglwyddo gwybodaeth feddygol
- hanes meddygol a llawfeddygol
- meddyginiaeth/au
- hanes a hoffterau ynghylch gweithgarwch corfforol
- lefelau cyfredol o ffitrwydd
- ystyriaethau cymdeithasol a seicolegol
- nodau personol ac ymddygiadol
**
**
Amodau (i gwmpasu isafswm o 3)
- cardiofasgwlaidd
- anadlol
- cyhyrysgerbydol
- seicolegol
- metabolig/imiwnolegol
**
**
Nodau
**
- iechyd a ffitrwydd cyffredinol/penodol
- ffisiolegol
- seicolegol
- ffordd o fyw
- cymdeithasol
- gallu gweithredol
- tymor byr
- tymor canolig
- tymor hir
**
**
SMART
**
- penodol
- mesuradwy
- cyraeddadwy/cytunwyd
- realistig
- yn rhwym wrth amser
**
**
Egwyddorion hyfforddi
**
- penodoldeb
- gorlwytho
- adferiad
- addasu
- gwrthdroadwyedd neu ddad-hyfforddi
**
**
Ymarfer a/neu weithgareddau corfforol, i ddatblygu
- cardiofasgwlaidd
- cryfder
- dycnwch
- hyblygrwydd
- sefydlogrwydd craidd
- sgiliau echddygol
**
**
*
*
*
*
*
*
*
*
Dulliau
**
- adroddiadau
- cyfweliad
- holiadur
- arsylwi
- asesiadau gweithredol
**
**
Gweithwyr proffesiynol eraill (i gwmpasu isafswm o 2)
- ffisiotherapyddion
- seicolegwyr
- ffisiolegyddion
- biopeirianaethwr
- arbenigwyr cymorth ffordd o fyw
- rhwydwaith gymorth cymdeithasol cyfranogwyr
- meddyg
- goruchwylydd
- gweithiwr proffesiynol iechyd/ymarfer corff arbenigol
- maethegydd/dietegydd
**
**
Addasiadau, newidiadau o ran
- dwyster
- hyd
- cyfarpar
- dewis o ymarferion
- trefn ymarferion
- dulliau hyfforddi
Gwybodaeth Cwmpas
SMART
**
**
- penodol
- mesuradwy
- cyraeddadwy/cytunwyd
- realistig
- yn rhwym wrth amser
**
**
Egwyddorion hyfforddi
**
- penodoldeb
- gorlwytho
- adferiad
- addasu
- gwrthdroadwyedd neu ddad-hyfforddi
**
**
Addasiadau, newidiadau o ran
- dwyster
- hyd
- cyfarpar
- dewis o ymarferion
- trefn ymarferion
- dulliau hyfforddi
**
**
Gweithwyr proffesiynol eraill
- ffisiotherapyddion
- seicolegwyr
- ffisiolegyddion
- biopeirianaethwr
- arbenigwyr cymorth ffordd o fyw
- rhwydwaith gymorth cymdeithasol cyfranogwyr
- meddyg
- goruchwylydd
- gweithiwr proffesiynol iechyd/ymarfer corff arbenigol
- maethegydd/dietegydd
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- arddangos a hyrwyddo ffordd gyfrifol o fyw ac ymddwyn, trwy beidio â chefnogi'r defnydd o gyffuriau sy'n gwella perfformiad, ac unrhyw sylwedd anghyfreithlon arall
- cynnal cyfrinachedd
- delio â chyfranogwyr mewn modd agored a thryloyw; gan barchu anghenion eu cyfranogwyr bob tro
- ceisio mabwysiadu'r lefel uchaf o safonau proffesiynol yn holl feysydd eu gwaith a datblygiad eu gyrfa
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau canlynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer:
- geisio magu perthnasau iach gyda chyfranogwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill trwy gefnogi, cydgysylltu a rheoli'r broses ffitrwydd/ymarfer yn effeithiol, gan gadw'r cyfranogwr wrth wraidd y broses
- bod yn ymwybodol o rolau personél cynorthwyol yn y galwedigaethau gofal iechyd a chydnabod pryd y dylid atgyfeirio problemau at yr arbenigwyr hyn
- bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau ac atebolrwyddau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a chodau ymarfer y diwydiant
- anelu at rymuso cyfranogwyr; yn cefnogi eu hawl i wneud dewisiadau, dod o hyd i'w hatebion eu hunain, a'u galluogi i gymryd rhan a datblygu ar eu cyflymder eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain
- nodi a chydnabod anghenion y cyfranogwyr ar ddechrau'r broses
anelu at wella hyder, hunan-barch a lefelau ffitrwydd cyfranogwyr
myfyrio ar eu harfer eu hunain a thrwy'r amser geisio ffyrdd i wella eu gallu ffitrwydd ac ymarfer, sgiliau a gwybodaeth eu hunain
- sefydlu perthynas dda gyda chyfranogwyr
- dangos empathi a sensitifrwydd i nodau a chyflwr parodrwydd cyfredol cyfranogwyr
- cyflwyno delwedd gadarnhaol o'u hunain a'u sefydliad i gyfranogwyr
- datblygu perthynas weithio effeithiol gyda chyfranogwyr
- diffinio rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol eraill a allai fod yn gysylltiedig, yn glir
- cyfathrebu'n glir gyda chyfranogwyr mewn ffordd sy'n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
- dangos sensitifrwydd ac empathi i'r cyfranogwyr a'r wybodaeth maent yn ei darparu
Sgiliau
Mae'r sgiliau dilynol yn sylfaenol i'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Ymarfer a Ffitrwydd
Dylai Gweithwyr Ymarfer Proffesiynol:
- baratoi'n systematig ar gyfer yr holl weithgareddau gan sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu cyfranogwyr
- sicrhau bod gwahaniaethu a chynhwysiant a all alluogi cyfranogwyr ag anghenion neilltuol ac o alluoedd amrywiol i gymryd rhan mewn sesiynau a rhaglenni. Dylid ystyried anghenion cyfranogwyr ag anabledd a, lle y bo'n bosibl, dylid cwrdd â'u hanghenion
- gweithredu rheolau sylfaenol ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn
- esbonio eu rôl a chyfrifoldebau i gyfranogwyr
- nodi unrhyw rwystrau rhag cyfranogi
- annog cyfranogwyr i ddod o hyd i ateb i'w rhwystrau
- nodi parodrwydd cyfranogwyr i gyfranogi
- nodi a chytuno strategaethau i atal rhoi'r gorau neu lithro'n ôl
- defnyddio dulliau hyfforddi sy'n cyfateb ag anghenion cyfranogwyr
- addasu eu perthynas â chyfranogwyr er mwyn cwrdd â'u hanghenion sy'n newid
- gwrando ar a gofyn cwestiynau i gyfranogwyr er mwyn gwirio eu dealltwriaeth
- nodi'r wybodaeth mae arnynt angen ei chasglu ynghylch eu cyfranogwyr
- casglu gwybodaeth ynghylch eu cyfranogwyr gan ddefnyddio dulliau cymeradwy
- cofnodi'r wybodaeth mewn ffordd a fydd yn helpu i'w dadansoddi
- defnyddio technegau cyfathrebu ac ymatebion priodol wrth ddelio ag anghydfod
- cydnabod ymddygiad gwahaniaethol a gwybod am y gweithdrefnau i'w dilyn os bydd unrhyw ddigwyddiadau
Geirfa
Gweithgareddau
Cydrannau sesiwn gweithgarwch corfforol a all ganolbwyntio ar y ffordd rydych yn datblygu cryfder, gwytnwch, technegau neu ymwybyddiaeth dactegol cyfranogwyr neu strategaethau ar gyfer datrys problemau. Mae sesiynau gweithgarwch corfforol yn cynnwys un gweithgaredd neu fwy.
*
*
*
*
Cydweithwyr
Y bobl rydych yn gweithio gyda nhw - pobl sy'n gweithio ar yr un lefel â chi'ch hunan neu eich rheolwr llinell.
Adborth
Y broses o roi a derbyn barn ar berfformiad. Gallai hyn eich cynnwys chi'n rhoi adborth i gyfranogwyr ar eu perfformiad neu gyfraniad at sesiwn gweithgarwch corfforol; neu hyfforddwr mwy profiadol yn rhoi barn ar eich perfformiad wrth gyflenwi sesiwn gweithgarwch corfforol neilltuol.
Nodau
*
*
*
*
Gallant fod yn rhai tymor hir, tymor canolig neu dymor byr.
**
Cynllun**
Mae cynllun sesiwn gweithgarwch corfforol yn ddisgrifiad o sesiwn neilltuol; yn cael eu cynnwys yn y cynllun fydd ei nodau, amcanion, cynnwys, gweithgareddau amseru a'r cyfarpar sydd eu hangen. Dylid cofnodi cynlluniau fel y gellir eu rhannu gydag eraill a chyfeirio atynt yn ddiweddarach.
Adolygu
Y broses o ddadansoddi'r sesiynau rydych wedi eu cynllunio a chyflenwi, gan nodi'r hyn a aeth yn dda a'r hyn y gallai fod wedi cael ei wella.
*
*
*
*
Lles
Cefnogi lles cyfranogwyr gan gynnwys ffordd sylfaenol o fyw, maetheg ac ymwybyddiaeth ynghylch cyffuriau.
Dolenni I NOS Eraill
Mae'r safon hon yn cysylltu ag SKAEF20.