Datrys problemau peirianyddol mewn amgylchedd bioweithgynhyrchu

URN: COGSCIM4_12
Sectorau Busnes (Suites): Cyfres Gweithgynhyrchu Gwyddonol 4 2009
Datblygwyd gan: Cogent
Cymeradwy ar: 30 Maw 2017

Trosolwg

Mae'r safon hon yn disgrifio'r cymwyseddau fydd eu hangen arnoch i ddatrys problemau peirianyddol mewn amgylchedd bioweithgynhyrchu, yn unol â gweithdrefnau cymeradwy. Bydd angen i chi gymryd camau cyflym a phriodol i gywiro'r broblem beirianyddol. Bydd angen i chi weithio'n ôl safon y gweithdrefnau gweithredu, y ddeddfwriaeth a'r polisi sefydliadol perthnasol, a hefyd bydd yn rhaid dilyn Arferion Gweithgynhyrchu Da (GMP). Bydd angen i chi hefyd gyflwyno cofnodion a manylion am eich gwaith bioweithgynhyrchu i'r bobl briodol.

Bydd angen i chi ymchwilio i'r broblem, cael yr holl wybodaeth angenrheidiol a fydd yn eich galluogi i ganfod a gwerthuso datrysiadau posibl, a'u heffeithiau ar y broses beirianyddol a'r bobl gysylltiedig. Bydd disgwyl i chi hefyd benderfynu ar gynllun gweithredu, a rhannu hwn â'r bobl berthnasol.

Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys cydymffurfio â gofynion iechyd a diogelwch a'r polisïau a'r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer y gwaith datrys problemau a wneir. Bydd disgwyl i chi roi gwybod i'r bobl berthnasol am unrhyw broblemau â'r gweithgarwch bioweithgynhyrchu na allwch eu datrys yn bersonol, neu sydd y tu allan i'r awdurdod a ganiateir i chi,.

Bydd eich gwybodaeth sylfaenol yn ddigon i fod yn sail gadarn i'ch gwaith, a bydd yn eich galluogi i fabwysiadu dull o ddatrys problemau sy'n seiliedig ar wybodaeth. Bydd gennych ddealltwriaeth o'r egwyddorion datrys problemau peirianyddol a ddefnyddir, sy'n ddigon trylwyr i roi cefndir digon cyfarwydd i gyflawni'r gweithgarwch yn unol â'r fanyleb ofynnol.


Byddwch yn deall y rhagofalon diogelwch sy'n ofynnol pan fyddwch yn cyflawni'r gweithgarwch bioweithgynhyrchu ar gyfer gweithrediadau a phrosesau gwyddonol. Bydd yn rhaid i chi ddangos arferion gweithio diogel gydol yr amser, a byddwch yn ymwybodol o'ch cyfrifoldeb am gymryd y mesurau diogelwch angenrheidiol i amddiffyn eich hun ac eraill yn y gweithle.

Mae'r gweithgarwch hwn yn debygol o gael ei gyflawni gan rai y mae eu rôl yn y gwaith yn cynnwys gweithgareddau gweithgynhyrchu Gwyddoniaeth/Bio. Gallai hyn gynnwys unigolion sy'n gweithio yn y diwydiannau canlynol: Cemegol, Fferyllol a Gwyddorau Bywyd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

P1 sicrhau bod eich gwaith yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau gweithredu safonol
P2 gwisgo’r cyfarpar diogelu personol priodol wrth weithio yn yr amgylchedd bioweithgynhyrchu
P3 cymryd camau prydlon i ganfod a chywiro’r problemau gweithredol, a hysbysu’r holl bobl berthnasol o’r cynnydd a wneir
P4 cael yr holl wybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r problemau
P5 nodi natur a graddfa’r problemau yn gywir
P6 gwerthuso pob datrysiad peirianyddol realistig i gywiro’r problemau
P7 canfod y datrysiad peirianyddol mwyaf effeithiol i gywiro’r problemau
P8 sicrhau bod datrysiadau peirianyddol yn cael eu gweithredu’r gywir a phrydlon
P9 sicrhau bod y datrysiad yn cydymffurfio â’r holl reoliadau a chanllawiau perthnasol
P10 rhannu’r wybodaeth ofynnol am y gwaith a wnaed ag uwch reolwyr a phobl awdurdodedig eraill, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

K1 gofynion iechyd a diogelwch y maes lle’r ydych yn cyflawni’r gweithgarwch bioweithgynhyrchu
K2 goblygiadau peidio â chydymffurfio â deddfwriaeth, rheoliadau, safonau a chanllawiau wrth ymgymryd â gweithgarwch bioweithgynhyrch, fel y nodwyd mewn llawlyfrau gweithredu bioweithgynhyrchu lleol
K3 pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau gweithredu gweithgynhyrchwyr cyfarpar
K4 yr egwyddorion Arferion Gweithgynhyrchu Da (GMP) sy’n weithredol yn y gweithle
K5 pwysigrwydd gwisgo dillad diogelwch, menig, a’ch bod yn amddiffyn y llygaid wrth drafod deunyddiau (gan gynnwys sylweddau biocemegol, pathogenau biolegol/neu antigenau), a’r cyfarpar a ddefnyddir i’w cyfyngu a’u prosesu
K6 y cynnyrch wedi’i weithgynhyrchu ac olrhain swp-brosesu a system gofnodi
K7 y mathau o systemau trafod a didol, a’r gweithdrefnau a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchion sy’n cael eu prosesu yn y cyfleusterau gweithgynhyrchu
K8 pwysigrwydd adnabyddiaeth gywir, ac unrhyw rifau sefydliadol a gweithgynhyrchu unigryw
K9 y gofynion sefydliadol i sicrhau diogelwch y gweithle
K10 y sianelau cyfathrebu a’r cyfrifoldebau yn eich adran, a’u cysylltiadau â gweddill y sefydliad
K11 terfynau eich awdurdod a phwy ddylech eu hysbysu os oes problemau na allwch eu datrys
K12 sut mae cael manylion am broblemau peirianyddol
K13 difrifoldeb gwahanol fathau o broblemau, a sut i flaenoriaethu’r problemau sydd i’w datrys
K14 sut i gael a sut i ddehongli lluniadau, siartiau, manylebau, llawlyfrau gweithgynhyrchwyr, adroddiadau hanes/cynnal a chadw a dogfennau eraill sydd eu hangen ar gyfer y broses datrys problemau
K15 y prosesau peirianyddol a’r gweithdrefnau gweithredu o fewn maes eich cyfrifoldeb
K16 yr egwyddorion a’r prosesau gweithgynhyrchu o fewn y swyddogaeth beirianyddol lle mae’r broblem wedi codi
K17 sut i gael unrhyw gyfarpar ategol angenrheidiol i helpu’r ymchwiliad neu i ddatrys y broblem dan sylw
K18 mathau ac effeithiau’r problemau peirianyddol yn yr amgylchedd bioweithgynhyrchu
K19 y ffactorau sy’n rhaid eu hystyried wrth ddewis datrysiad ar gyfer problem
K20 y technegau a ddefnyddir i gael gwybodaeth am broblemau, a ffynonellau’r wybodaeth
K21 y dulliau a’r technegau sy’n gysylltiedig â datrys problem
K22 y dulliau a’r technegau sy’n gysylltiedig â gwerthuso gwybodaeth
K23 sut mae cael a dehongli dogfennau deddfwriaethol a rheoliadol
K24 sut mae cael a dehongli polisi a gweithdrefnau personél cwmni
K25 sut mae adalw data angenrheidiol o systemau gwybodaeth cwmnïau
K26 y mathau o systemau/technegau monitro sydd ar gael, a’r defnydd ohonynt


Cwmpas/ystod

1. ymgymryd â phob un o’r gweithgareddau canlynol:
1.1. trafod/ymgynghori â’r bobl berthnasol ar natur a graddfa’r broblem
1.2.casglu gwybodaeth o ffynonellau priodol i helpu i adnabod a datrys y broblem
1.3. canfod a gwerthuso datrysiadau posibl, ystyried datrysiadau dros dro, tymor byr a thymor hir
1.4. rhannu’r datrysiad arfaethedig â’r bobl berthnasol, cael adborth pan yn briodol
1.5. paratoi cynllun gweithredu i roi’r datrysiad priodol ar waith
1.6. sicrhau bod y datrysiad y cytunwyd arno yn cael ei weithredu mewn modd effeithiol a phrydlon
1.7. sicrhau bod y datrysiad y cytunwyd arno’n cydymffurfio â’r rheoliadau a’r canllawiau priodol
1.8. monitro’r gwaith o weithredu’r datrysiadau a gwneud newidiadau angenrheidiol i’r cynllun gweithredu

2. cymryd camau i ddatrys problemau peirianyddol sy’n deillio o bedwar o’r canlynol:
2.1. problem ag ansawdd deunydd pacio
2.2. dyfeisiadau trafod deunyddiau
2.3. diffyg ar gyfarpar  
2.4. cysylltiedig ag ergonomeg
2.5. cyflenwad cyfleustodau (nwy, trydan, dŵr, aer, etc)
2.6. cysylltiedig â diogelwch
2.7. problem â phersonél
2.8. problem â chontract allanol  
2.9. diffyg adnoddau/deunyddiau
2.10. problem amgylcheddol
2.11. newid yng ngofynion y cwsmer

Datrys problemau peirianyddol mewn amgylchedd bioweithgynhyrchu

2.12. cysylltiedig â dyluniad
2.13. amrywiad yn y gweithdrefnau gweithredu safonol
2.14. newid mewn gofynion rheoliadol
2.15. arall (rhowch fanylion)

3. gwerthuswch ddatrysiadau posibl i’r problemau, drwy ystyried y canlynol:
3.1. effeithiolrwydd gweithredol
3.2. rhwyddineb gweithredu
3.3. amserlen ar gyfer gweithredu
3.4. effaith ariannol
3.5. gweithrediad y system
3.6. effaith amgylcheddol
3.7. goblygiadau staffio
3.8. cydymffurfiaeth â rheoliadau
3.9. goblygiadau iechyd a diogelwch
3.10. arall (rhowch fanylion)

4. cael a defnyddio gwybodaeth ar y broblem o blith pedwar o’r canlynol:
4.1. data ystadegol
4.2. cofnodion hanesyddol (fel cynnal a chadw/cofnodion shifftiau)
4.3. archwiliadau ansawdd
4.4. ffynonellau allanol
4.5. adborth gan ddefnyddwyr a chydweithwyr
4.6. gweithdrefnau gweithredu/llawlyfrau gweithgynhyrchwyr
4.7. gweithdrefnau gweithredu safonol y cwmni
4.8. gwybodaeth iechyd a diogelwch
4.9. dogfennau monitro amgylcheddol
4.10. arsylwadau

Datrys problemau peirianyddol mewn amgylchedd bioweithgynhyrchu

5. gweithredu datrysiadau peirianyddol sy’n cydymffurfio â:
5.1. gofynion rheoliadol
Ar gyfer dwy o’r amserlenni canlynol: 5.2 dros dro (datrysiad dros dro)
5.3 tymor byr (lle bydd angen gweithredu pellach)
5.4. tymor hir (datrysiad parhaol)

6. cofnodi manylion am y gwaith datrys problemau, a rhannu’r manylion â’r bobl briodol, gan ddefnyddio:
6.1. adroddiad llafar
Ynghyd ag un dull o blith y canlynol:
6.2. adroddiad ysgrifenedig neu wedi’i deipio
6.3. dogfennaeth penodol cwmni
6.4. cofnod ar gyfrifiadur
6.5. e-bost


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2019

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Cogent

URN gwreiddiol

COGSCIM4_12

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt a Galwedigaethau Technegol, Technegwyr Gwyddonol a Pheirianyddol, Gwyddoniaeth a Gwyddoniaeth mathemateg, Gwyddoniaeth, Peirianegol a thechnolegau gweithgynhyrchu, Technolegau gweithgynhyrchu

Cod SOC

2112

Geiriau Allweddol

cynhyrchu; datrys problemau; gweithgynhyrchu; bioweithgynhyrchu; peirianneg; gwyddoniaeth