Glanhau platiau ar gyfer cydosod
URN: SKSVFX12
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Gweledol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chael gwared ar neu orchuddio cynnwys diangen gyda phaent oddi ar blatiau. Gallai hyn ymwneud â strwythurau, rigiau, crafiadau, llwch, staeniadau o gemegau’n datblygu, logos cwmnïau, harneisiau diogelwch, marcwyr a ddefnyddir ar gyfer sgrin glas neu wyrdd, elfennau modern o ddramâu cyfnod a phobl na ddylai fod mewn saethiad megis trinwyr anifeiliaid neu bypedwyr.
Mae’r safon hon yn arbennig ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm â Pheintio a Pharatoi neu Gydosod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dehongli’r briff ar gyfer gwaith peintio a pharatoi
- cadw manylion o gydosodiad graen, lliw ac arteffactau, gan wneud newidiadau hanfodol sydd wedi’u nodi yn y briff yn unig
- gwirio a chadarnhau eich bod chi ond yn glanhau’r rhannau hynny o’r platiau fyddai’n ymddangos yn y ddelwedd derfynol
- dadraenu platiau er mwyn gallu cyflawni gwaith peintio a pharatoi’n effeithiol
- dewis technegau i gyflawni gwaith o’r safon ddymunol yn yr amser byrraf
- gwirio a chadarnhau nad yw’r gweithgarwch glanhau yn gadael unrhyw olion
- gweithio gyda’r sianeli lliw cywir i gyflawni’r effaith a ddymunir
- peintio gyda chynildeb a chywirdeb
- gwirio a chadarnhau bod cynnwys y platiau sydd wedi’u glanhau yn gredadwy
- defnyddio strociau paent cyson wrth gyflawni gwaith peintio ffrâm fesul ffrâm
- gwirio a chadarnhau cysondeb rhwng fframiau
- ailraenu platiau i’r un lefel â’r un wreiddiol
- gwirio a chadarnhau bod y canlyniad terfynol yn briodol ar gyfer cydosod
- cyflawni gwaith yn unol ag amserlenni a cherrig milltir y cynhyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- manteision ac anfanteision defnyddio technegau glanhau gwahanol a’r amser perthynol â gymerir gan bob un
- pwysigrwydd parchu gweledigaeth greadigol y cleient neu’r cyfarwyddwr
- pryd mae hi’n briodol i ddefnyddio clytiau
- sut mae golau’n ymddwyn ar wahanol arwynebau ac mewn gwahanol sefyllfaoedd
- y sianeli lliw, sut maen nhw’n rhyngweithio gyda’i gilydd a sut i ddewis pa un i’w defnyddio wrth lanhau platiau
- yr hyn y gallai ac na allai cyfrifiaduron a meddalwedd ei wneud mewn perthynas â pheintio a pharatoi
- sut i bennu pryd y byddai datrysiad 3D yn fwy priodol, effeithlon neu ymarferol na datrysiad ‘Paent’.
- sut i ddefnyddio’r feddalwed ofynnol
- manteision ac anfanteision gwahanol dechnegau cynhyrchu mattes a sut i’w defnyddio
- sut i dracio mewn clytiau gan ddefnyddio technegau taflunio pwynt, planar neu ddelwedd
- sut i lanhau platiau i gyflawni deilliannau credadwy heb niwlio neu anghysondebau
- effaith berwi neu fyrlymu ar gysondeb a sut i beintio ffrâm fesul ffrâm gan osgoi hyn
- diben a dulliau dadraenu ac ailraenu
- pwysigrwydd cyflawni gwaith yn unol ag amserlenni a cherrig milltir y cynhyrchiad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSVFX12
Galwedigaethau Perthnasol
Cyfarwyddwr Technegol Effeithiau Gweledol, Artist Effeithiau Gweledol, Artist Iau Effeithiau Gweledol, Cynhyrchydd Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Effeithiau Gweledol, Goruchwyliwr Cynorthwyol Effeithiau Gweledol, Cyfarwyddwr Technegol Cynorthwyol Effeithiau Gweledol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
cydosod; platiau; Effeithiau Gweledol; effeithiau gweledol; gofynion y cynhyrchiad; cynhyrchiad; graenu; glanhau;