Dadansoddi sgriptiau a pharatoi cyllidebau ar gyfer effeithiau arbennig ffisegol
URN: SKSPSFX1
Sectorau Busnes (Cyfresi): Effeithiau Arbennig Ffisegol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2024
Trosolwg
Mae’r safon hon a wnelo â dadansoddi sgriptiau a chyllidebau ar gyfer effeithiau arbennig ffisegol yn unol â gofynion y cynhyrchiad. Bydd arnoch chi angen cyfathrebu gyda phenaethiaid adrannau, cyflenwyr, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch ac unrhyw sefydliad perthnasol arall er mwyn cadarnhau bod modd cyflawni’r effeithiau yn ddiogel.
Mae hyn yn cynnwys ystyried paramedrau’r cyfnod, lleoliad a dilysrwydd. Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n ymchwilio, dylunio a chynllunio effeithiau arbennig ffisegol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dadansoddi sgriptiau er mwyn canfod manylion yr effeithiau sydd eu hangen yn unol â gofynion y cynhyrchiad
- ymchwilio a pharatoi cyllidebau er mwyn dylunio, creu a gweithredu effeithiau
- cyflwyno brîff effeithiau arbennig ffisegol, ynghyd â byrddau stori ategol, a phethau gweledol gaiff eu cofnodi yn unol â gofynion y cynhyrchiad pan fo angen
- gwirio a chadarnhau bod y lefel ofynnol o yswiriant mewn lle i greu a chyflawni’r effaith
- cadarnhau bod modd cyflawni’r effeithiau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch a bod tystysgrifau a thrwyddedau yn gyfredol a dilys
- ymgynghori gydag unigolion a chwmnïau am friffiau sydd wedi’u cofnodi er mwyn sicrhau bod modd cyflawni’r dyluniadau a’u bod yn cwrdd â gofynion y cynhyrchiad
- cofnodi pob agwedd o reoli risg ar ffurfiau gofynnol, a’i ddarparu i eraill pan fo angen
- adnabod offer, deunyddiau a sgiliau arbenigol sydd eu hangen ar gyfer pob effaith
- asesu effaith lleoliad a chost offer a deunyddiau ar gyllidebau ac amserlenni’r cynhyrchiad
- cytuno ar yr hyn sydd ei angen i ddylunio, adeiladu, profi a gweithredu effeithiau i gwrdd â gofynion y cynhyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ddehongli sgript a gofynion cynhyrchiad wrth gyflwyno dadansoddiad sgript
- ffactorau all gael effaith ar ymarferoldeb effaith sydd wedi’i chynllunio gan gynnwys deddfwriaeth, rheoliadau, diogelwch, cyfnod y sgript, lleoliad a dilysrwydd gofynnol erthyglau a deunyddiau
- sut i gyfathrebu gyda staff cynhyrchu perthnasol i sicrhau bod dyluniadau yn ddiogel, bod modd eu cyflawni a’u bod yn cwrdd â gofynion y cynhyrchiad
- y gwahanol fathau o ddeunyddiau, adnoddau a sgiliau arbenigol sydd eu hangen i gynhyrchu effeithiau arbennig ffisegol
- sut i gael gafael ar neu gynhyrchu erthyglau a deunyddiau a sut mae hyn yn cael effaith ar gyllidebau ac amserlenni’r cynhyrchiad
- sut mae’r broses gynhyrchu yn gweithio a sut mae modd cyflawni elfennau effeithiau arbennig ffisegol yn rhan ohoni
- sut mae adrannau eraill yn rhyngweithio a chydweithio gydag effeithiau arbennig ffisigol, yn arbennig camera, styntiau, gwallt a cholur, gwisgoedd ac effeithiau gweledol
- pryd bydd angen darparu byrddau stori, pethau gweledol a chymhorthion dylunio
- sut i gyllidebu ar gyfer holl elfennau dylunio gan gynnwys llafur, adnoddau a gwneuthuriad, sicrhau bod trwyddedau ac yswiriant priodol wedi’u cynnwys
- prosesau rheoli risg a sut i’w rheoli
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
3
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSPSFX1
Galwedigaethau Perthnasol
Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig , Technegydd Effeithiau Arbennig, Swyddog Effeithiau Arbennig dan Hyfforddiant, Arolygydd Effeithiau Arbennig
Cod SOC
Geiriau Allweddol
effeithiau arbennig ffisegol; sgriptiau; dylunio; cynllunio; dadansoddi; cyllideb; effeithiau; deunyddiau; sgiliau arbenigol; trwyddedau; rheoli risg; cynhyrchiad;