Rheoli iechyd a diogelwch criwiau goleuo
URN: SKSL13
Sectorau Busnes (Suites): Goleuo ar gyfer Ffilm a Theledu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â goruchwylio iechyd a diogelwch criwiau goleuo yn ystod ffilmio cynhyrchiad ar leoliad. Mae hefyd yn ymdrin â chydymffurfio gyda deddfwriaeth gyfredol o ran gweinyddu, trefnu a chynllunio'r cynhyrchiad ynghyd â chynnal asesiad risg parhaus er mwyn cynnal amgylchedd gwaith diogel ac iach.
Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud â chyfathrebu'n effeithiol gyda chydweithwyr eraill am y gwaith a gyda'r tîm am y gweithdrefnau a gwaith arall yn lleoliad y cynhyrchiad.
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithio fel Giaffars.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwirio bod eich cyfrifoldebau iechyd, diogelwch a llesiant yn gyson gyda deddfwriaethau cytundebau a pholisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol ynghyd â gofynion penodol yn ymwneud â'r cynhyrchiad a gweithdrefnau'r lleoliad rydych wedi cytuno arno
- rhoi gwybod am eich cyfrifoldebau dros ddiogelwch a llesiant i'r gweithwyr perthnasol yn y cynhyrchiad
- cynnal asesiad risg a rhoi gwybodaeth amdano i'r criw cynhyrchu a goleuo
- rhoi systemau diogel o weithio ar waith sy'n bodloni'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol ac sydd hefyd yn cydymffurfio gyda holl asesiadau risg
- gofalu y caiff holl hysbysiadau statudol yn ymwneud â pheryglon a risgiau eu harddangos
- gofalu bod y cyfarpar diogelu personol, y cyfarpar a'r adnoddau diogelwch yn cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch
- gofalu bod digon o gyfarpar diogelu personol ar gael a'u bod wrth law ar gyfer unrhyw un fyddai eu hangen
- gofalu y caiff cyfarpar mynediad trydanol eu gosod a'u defnyddio yn unol â'r cyfarwyddiadau a rheoliadau
- monitro gwaith eich tîm i ofalu eu bod yn cyflawni eu gwaith yn ddiogel
- adolygu a diweddaru asesiad risg yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol
- cynnal cofnodion er mwyn cyfrannu at wneud unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol ynghylch diwygiadau i asesiadau risg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cyfrifoldebau ac ymrwymiadau iechyd, diogelwch, llesiant a gwaith ichi a'ch tîm / criw
- pwysigrwydd penodi gweithwyr cymorth cyntaf a thrafod hyn gyda'ch tîm / criw
- egwyddorion yr asesiad risg
- pwysigrwydd cynnal asesiadau risg gyda'ch tîm yn barhaus
- sut i gynnal asesiad risg
- gofynion a gweithdrefnau cyfundrefnol sy'n berthnasol i'r asesiad risg trydanol ac asesiad risg y cynhyrchiad
- pam a sut i ofalu bod digon o gyfarpar diogelu personol ac adnoddau a chyfarpar diogelwch ar gael
- pwysigrwydd cofnodi damweiniau bu bron iddyn nhw ddigwydd
- sut i gofnodi damweiniau bu bron iddyn nhw ddigwydd
- pwysigrwydd arddangos hysbysiadau statudol a rhybuddion peryglon a'r man mwyaf effeithiol i'w harddangos
- pwysigrwydd hysbysu pawb yn drylwyr am faterion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch
- gweithdrefnau disgyblu a chosbau eraill yn ymwneud â pheidio â chydymffurfio gyda gweithdrefnau iechyd a diogelwch
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSL17
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio, Crefftau Medrus Heb eu Dosbarthu mewn Man Arall, Galwedigaethau â Chrefftau Medrus
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
goleuo; criwiau goleuo; hysbysiadau statudol; cyfarpar diogelu personol; iechyd, diogelwch a lles; peryglon; risgiau; asesiad risg