Cyfrannu at y ddarpariaeth o weithgareddau anturus
Trosolwg
Mae a wnelo'r safon hon â chyfrannu at weithgareddau anturus a chynorthwyo cyfranogwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau anturus yn yr awyr agored. Gall enghreifftiau gynnwys cyrsiau rhaffau ar y safle, gweithgareddau i ffwrdd o'r safle neu gyfuniad o weithgareddau, a all gynnwys gwersylla dros nos. Gallai pwrpas cyfrannu at y ddarpariaeth o weithgareddau anturus fod er mwyn darparu gweithgareddau adloniadol ac addysg, annog datblygiad personol a chymdeithasol, neu annog pobl i gymryd rhan neu wneud cynnydd pellach yn y dyfodol yn y gamp neu'r gweithgaredd penodol.
Prif ddeilliannau'r safon hon ydyw:
paratoi ar gyfer gweithgareddau anturus
cyflwyno cyfranogwyr i weithgareddau anturus
monitro, rheoli ac adolygu gweithgareddau anturus
Mae'r safon hon ar gyfer staff sy'n gyfrifol am weithgareddau sy'n cynnig lefel risg y tybir ei fod yn addas ar gyfer 'trothwy antur' y cyfranogwyr, ond nad ydynt yn beryglus o ran iechyd a diogelwch cyn belled bod y profiad yn cael ei reoli gan arweinwyr cymwys. Rhaid bod y staff wedi derbyn hyfforddiant a phrofiad priodol yn y gweithgareddau maen nhw'n eu harwain.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Paratoi ar gyfer gweithgareddau anturus**
nodi amcanion y profiad, mewn perthynas ag anghenion, galluoedd a photensial y cyfranogwyr
asesu trothwyon antur y cyfranogwyr
gwirio bod y profiad yn bodloni amcanion trothwyon antur y cyfranogwyr
gwirio bod y profiad yn unol â gofynion iechyd a diogelwch yn unol â rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
sicrhau eich bod yn gymwys i arwain y profiad
nodi'r dylanwadau a'r peryglon allanol a all effeithio ar y profiad
gwirio bod paramedrau diogelwch wedi eu rhoi yn eu lle, tra'n cynnig her ac antur ar yr un pryd
gwirio pob agwedd ar y profiad gyda trefnydd y gweithgaredd ac unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad
cysylltu â threfnydd y gweithgaredd er mwyn trosglwyddo gwybodaeth berthnasol am y cyfranogwyr
* *
Cyflwyno cyfranogwyr i weithgareddau anturus
esbonio amcanion a gwerth y profiad i'r cyfranogwyr
annog cyfranogwyr i helpu i gynllunio a rheoli'r profiad
cynnwys y cyfranogwyr wrth wneud penderfyniadau ymarferol er mwyn eu gwneud yn 'ymwybodol o risgiau'
esbonio'r paramedrau diogelwch i gyfranogwyr a'r gweithdrefnau brys y dylid eu dilyn
rhoi sicrwydd i'r cyfranogwyr ac annog cyfleoedd i feithrin ymddiriedaeth ar y cyd a chydgymorth o fewn y grŵp
paratoi cyfranogwyr i ddelio ag amgylchiadau disgwyliedig ac annisgwyl yn ystod y profiad, a'u hannog i ddatrys problemau ar eu pennau eu hunain
* *
Monitro, rheoli ac adolygu gweithgareddau anturus
darparu dull arwain sy'n helpu'r profiad i gyflawni ei amcanion
monitro lefel yr her ac antur drwy gydol y profiad a chynnal gweithgareddau o fewn paramedrau diogelwch a gytunwyd
addasu lefel yr her ac antur, drwy asesiadau risg-budd, i gael y cyfle gorau posibl o gyflawni amcanion y profiad
tynnu sylw cyfranogwyr at beryglon, paramedrau diogelwch a chyfrifoldebau a gytunwyd ar gyfer y profiad
annog cyfranogwyr i roi gwybod am beryglon, damweiniau a damweiniau fu bron a digwydd
ymyrryd dim ond pan fydd iechyd a diogelwch y cyfranogwyr yn y fantol neu os na chaiff yr amcanion eu cyflawni
gwybod pa bryd i ofyn am gymorth unigolyn â chyfrifoldeb pan fydd problemau yn digwydd
dilyn deddfwriaeth iechyd a diogelwch, a pholisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer adrodd am beryglon, damweiniau a damweiniau fu bron a digwydd i'r unigolyn â chyfrifoldeb
annog cyfranogwyr i fyfyrio ac asesu a yw'r profiad wedi cyflawni eu hamcanion
annog cyfranogwyr i roi adborth er mwyn eu helpu i ddysgu o'r profiad
nodi unrhyw bwyntiau dysgu arwyddocaol i'w gweithredu yn y dyfodol a chynllunio dilynol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Paratoi ar gyfer gweithgareddau anturus**
dulliau o nodi amcanion y profiad mewn perthynas ag anghenion, galluoedd a photensial y cyfranogwyr
y gwahaniaeth rhwng risg real a risg tybiedig
ystyr y `continwwm antur' o sefyllfaoedd cyfforddus i sefyllfaoedd o banig
sut i asesu trothwyon antur cyfranogwyr
sut i gynllunio'r profiad i fodloni amcanion, a herio trothwyon antur cyfranogwyr ond nid i fynd y tu hwnt iddynt
sut i nodi'r dylanwadau allanol a'r newidynnau all effeithio ar y profiad, a goblygiadau peidio â gwneud hynny
sut i gydbwyso galluoedd a phryderon cyfranogwyr â'r risg tybiedig sy'n gysylltiedig â'r profiad
sicrhau bod paramedau diogelwch effeithiol, ond hyblyg, wedi eu sefydlu, a goblygiadau peidio â gwneud hynny
pam mae'n rhaid gwirio manylion y profiad a gynlluniwyd gydag unigolyn â chyfrifoldeb yn eich sefydliad
sut i sicrhau bod y profiad o fewn eich gallu i arwain
y ddeddfwriaeth berthnasol a rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer y math o brofiad a gynlluniwyd
y math o wybodaeth am y cyfranogwyr sydd angen ei throsglwyddo i drefnydd y gweithgaredd a sut dylid gwneud hyn
* *
Cyflwyno cyfranogwyr i weithgareddau anturus
gwerth antur a her a'r buddion all ddod i gyfranogwyr yn sgil profiadau o'r fath
dulliau o annog, yn hytrach na gorfodi, cyfranogwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau anturus
sut i alluogi cyfranogwyr i helpu i gynllunio a rheoli'r profiad a datblygu ymdeimlad o berchnogaeth
dulliau a buddion annog cyfranogwyr i helpu i gynllunio a rheoli eu profiad eu hunain a sut i gydbwyso hyn â'r paramedrau diogelwch
sut i ddirprwy cyfrifoldeb yn effeithiol i gyfranogwyr
sut i gyfathrebu gwybodaeth am y paramedrau diogelwch ar gyfer y profiad a sicrhau bod cyfranogwyr wedi eu deall
dulliau a buddion o annog cydgymorth ac ymddiriedaeth ar y cyd o fewn grŵp o gyfranogwyr
pwysigrwydd paratoi cyfranogwyr i ymdopi ag amgychiadau annisgwyl a bod yn 'ymwybodol o risgiau'
manteision paratoi cyfranogwyr i ddefnyddio technegau datrys problemau sylfaenol
* *
Monitro, rheoli ac adolygu gweithgareddau anturus
dulliau arwain a ddefnyddir wrth arwain gweithgareddau anturus
dulliau o fonitro lefel y risg, her ac antur yn barhaus mewn perthynas â throthwyon antur y cyfranogwyr a'u gallu i ymdopi, a goblygiadau peidio â gwneud hynny
sut i addasu lefel y risg, her ac antur, drwy gynnal asesiadau risg-budd, i gael y cyfle gorau posibl o gyflawni amcanion y profiad
sut i adnabod ymateb nodweddiadol cyfranogwyr unigol o dan straen a'n anghenion corfforol a seicolegol
y sefyllfaoedd lle gallai fod angen ymyrryd yn ystod y profiad
y sefyllfaoedd lle bydd arnoch angen cymorth gan unigolyn â chyfrifoldeb, a'r gweithdrefnau i'w dilyn er mwyn gwneud hyn
sut i sicrhau bod cyfranogwyr yn dal i dalu sylw at beryglon, paramedrau diogelwch a chyfrifoldebau a gytunwyd ar gyfer y profiad
sut i alluogi cyfranogwyr i roi adborth er mwyn eu helpu i ddysgu ar sail eu profiad
sut i adolygu'r profiad gyda'r cyfranogwyr er mwyn sicrhau bod y profiad wedi cyflawni ei amcanion
sut i nodi unrhyw bwyntiau dysgu arwyddocaol ar gyfer gweithredu yn y dyfodol a chynllunio dilynol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Amcanion* (o leiaf 2)
adloniant
yn seiliedig ar y cwricwlwm
datblygiad personol a chymdeithasol
annog pobl i gymryd rhan a gwneud cynnydd pellach yn y dyfodol yn y gamp neu weithgaredd
* *
Profiad
gweithgareddau ar y safle
gweithgareddau i ffwrdd o'r safle
* *
Cyfranogwyr (o leiaf 4)
oedolion
plant a phobl ifanc
unigolion ag anghenion penodol
newydd, di-brofiad
y rheini â pheth profiad
grwpiau
unigolion
Gwybodaeth Cwmpas
Newidynnau**
amodau amgylcheddol
tirwedd
lefelau dŵr, tymheredd a chyflymder cerrynt
gallu ac aelodau'r grŵp o gyfranogwyr
gweithgareddau hybrid
* *
Paramedau diogelwch
ffiniau corfforol
meini prawf ar gyfer rhoi'r gorau i'r profiad; sefyllfaoedd ar gyfer rhoi'r gorau iddi
rheolau diogelwch sylfaenol y cyfranogwyr
rheoliadau sy'n gymesur â'r risg
* *
Rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau sefydliadol
safonau'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol neu gymwysterau ar gyfer y gweithgaredd anturus a gynlluniwyd
camau i'w cymryd ar gyfer 'gweithgareddau hybrid'
cymarebau goruchwyliaeth sy'n gymesur â'r gweithgaredd a'r math o gyfranogwr
gweithdrefnau achub a brys
caniatâd wybodus rhieni, yn achos plant
asesiadau risg dynamig a sefyllfaoedd ar gyfer rhoi'r gorau iddi
Gwerthoedd
Mae'r gwerthoedd** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
meithrin a datblygu amgylchedd sy'n annog pobl i gymryd rhan, yn rheoli risgiau ac yn ysgogi her, mwynhad, hyder a hunan-barch ac yn fwy na dim cyflawniad
cefnogi bod angen i'r rhai sy'n cymryd rhan fod yng nghanol y gweithgaredd, trwy gydol eu dyletswyddau fel arweinydd
bod yn onest trwy gydol eu gwaith
annog ymddygiad cadarnhaol mewn modd teg, cyson, moesegol ac effeithiol
croesawu amrywiaeth a chynnwys pawb er mwyn cynnwys pob un sydd ag anghenion penodol a neu allu amrywiol
Ymddygiadau
Mae'r ymddygiadau** allweddol canlynol yn sail i ddarpariaeth y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd. Mae'r ymddygiadau hyn yn sicrhau bod y rhai sy'n cymryd rhan yn cael argraff dda o'r sefydliad a'r unigolyn
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
arsylwi, parchu a bod yn oddefgar tuag at bawb sy'n cymryd rhan, a phawb sydd ynghlwm, er enghraifft, rhieni, staff ac arweinwyr eraill
ymddwyn fel model rôl trwy gynnal y safonau uchaf o ymddygiad personol
gweithredu a dangos esiampl trwy ddilyn rheolau sefydlog ar gyfer ymddygiad yn ystod y sesiwn a neu raglen
dangos empathi tuag at anghenion a gofynion y rhai sy'n cymryd rhan
cadw o fewn y ffiniau ar gyfer cynnal a datblygu perthynas gyda'r rhai sy'n cymryd rhan
parchu swyddogaethau'r staff cefnogi, er enghraifft, gweithwyr gofal, cynorthwywyr cymorth cyntaf, achubwyr bywydau neu gyfeillion a gwybod pryd mae angen cyfeirio unrhyw faterion at yr arbenigwyr hyn
Sgiliau
Mae'r sgiliau** canlynol yn sail i ddarparu y gwasanaethau o fewn arweinyddiaeth gweithgaredd a bydd yn helpu arweinwyr gweithgaredd i ddylanwadu'n fwriadol ar y rhai sy'n cymryd rhan.
Dylai Arweinwyr Gweithgareddau wneud y canlynol:
dylanwadu ar y rhai sy'n cymryd rhan i gymryd gofal o a gwerthfawrogi beth ydy gwerth yr offer gaiff ei ddefnyddio
bod â dull cyfundrefnol o baratoi, arwain, arolygu a gwerthuso gweithgareddau
deall pryd mae angen cynnal cyfrinachedd a phan does dim modd ei sicrhau
myfyrio ar eu harferion eu hunain a chwilio am ffyrdd o wella eu gallu bob tro
gallu meddwl y tu hwnt i'r syniad gwreiddiol a llunio cynlluniau wrth gefn
rheoli disgwyliadau'r rhai sy'n cymryd rhan
bod yn hyderus a gwydn
addasu gweithgareddau er mwyn datblygu gweithgareddau sy'n llawn hwyl a chyda phwrpas i'r rhai sy'n cymryd rhan
gallu rheoli amser yn effeithiol ac effeithlon
adnabod unrhyw beth sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan a sut mae cael gwared ar y rhwystrau hyn
meithrin gwaith tîm a chydweithio ymysg cyfoedion
dangos diplomyddiaeth wrth herio unrhyw faterion yn ymwneud ag ymddygiad a gwahaniaethu
grymuso a chynnwys y rhai sy'n cymryd rhan yn y sesiwn drwy ddirprwyo tasgau
grymuso y rhai sy'n cymryd rhan i fod yn 'ymwybodol o risgiau' trwy eu cynnwys mewn asesiad risg ymarferol ac unrhyw waith penderfynu
Geirfa
Trefnydd y gweithgaredd**
Y sefydliad allanol, neu'r unigolyn, y mae'r rhaglen gweithgareddau anturus wedi ei threfnu ar ei gyfer
*
*
*
*
Gweithgareddau anturus
Gweithgareddau sy'n cynnig lefel o risg tybiedig i'r cyfranogwyr sy'n briodol i'w 'trothwyon antur'; mae'n debygol y bydd lefel uwch o risg, canlyniadau ansicr, fel y'u canfyddir gan y cyfranogwyr, a mwy o gyfrifoldeb personol am iechyd a diogelwch
*
*
*
*
Trothwyon antur ac anffawd
Y cysyniad yn myd gweithgareddau anturus yn yr awyr agored bod gan unigolion eu 'trothwyon antur' eu hunain, sef pan fydd gweithgareddau bywyd 'arferol' yn croesi llinell i brofiadau llai cyfforddus ond mwy cyffrous a heriol sy'n rhoi gwir ymdeimlad o werth bywyd yn y pen draw. Ystyr anffawd yw pan fydd niwed neu anaf yn dod i'r amlwg yn y sefyllfaoedd heriol hyn.
*
*
*
*
Trothwy antur
Lefel y risg tybiedig sy'n rhoi ymdeimlad o her gwirioneddol i'r cyfranogwyr heb achosi lefelau annerbyniol o ofn a phryder sylweddol
*
*
*
*
Unigolion ag anghenion penodol
Pobl y gall y sesiwn fod yn fwy heriol iddynt nag sy'n arferol, er enghraifft, pobl â chyflyrau meddygol, pobl sydd dros eu pwysau, pobl sy'n anarferol o swil neu nerfus, menywod beichiog; cyfranogwyr anabl, a phobl ag anghenion amrywiol neu ddiwylliannol
*
*
*
*
Ymyriadau wedi'u mesur
Ymyriadau fel y rheini sy'n gysylltiedig â materion iechyd a diogelwch y bydd angen iddynt ddigwydd ar unwaith o bosibl
*
*
*
*
Damweiniau fu bron a digwydd
Damwain fu bron a digwydd yw digwyddiad heb ei gynllunio na wnaeth arwain at anaf, salwch neu ddifrod
*
*
*
*
Gweithgareddau oddi ar y safle
Er enghraifft, ar droed dros dirwedd nad yw'n beryglus, o bosibl yn cynnwys gwersylla dros nos neu weithgareddau oddi ar y safle ar ddŵr llonydd
*
*
*
*
Rheoliadau a gweithdrefnau sefydliadol
Fel rheol, bydd y dogfennau hyn yn gosod y safonau, gweithdrefnau a gofynion ar gyfer cyflenwi'r gweithgaredd. Gallant gynnwys rhestrau o gyfarpar, amlinelliad o gynlluniau'r sesiwn, pwyntiau a gweithdrefnau diogelwch. Gallant hefyd gyfeirio at Gorff Llywodraethu Cenedlaethol penodol neu gyrff gweithgareddau cenedlaethol perthnasol eraill o ran gwybodaeth a chanllawiau sy'n ymwneud â gweithgareddau. Gall y dogfennau hyn hefyd gyfeirio at lefelau staffio a safonau o ran cymarebau, cymwysterau a hyfforddiant/asesiadau a wnaed, a all fod yn gysylltiedig â'r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, ymgynghorwyr technegol neu nodweddion allanol neu fewnol eraill. Mae gan ddogfennau o ansawdd sawl defnydd ac efallai y bydd eu hangen ar amryw o gynrychiolwyr a rhanddeiliaid mewnol ac allanol. Mae'r dogfennau yn helpu i gyfathrebu gwybodaeth glir a chyson i staff ac eraill
*
*
*
*
Gweithgareddau ar y safle
Er enghraifft, cwrs rhaffau a rhedfeydd awyrol
*
*
*
*
Datblygiad personol a chymdeithasol
Galluogi pobl i wella eu galluoedd personol eu hunain mewn meysydd fel hunan-hyder, hunan-barch, hunan-ddibyniaeth, hunan-reolaeth a datrys problemau, yn ogystal â'u gallu i weithio ac ymwneud â phobl eraill
*
*
*
*
Potensial ar gyfer cysylltiad pellach
Byddai hyn yn gymwys os mai un amcan y gweithgaredd yw rhoi 'blas' ar y chwaraeon neu'r gweithgareddau hamdden i'r cyfranogwyr y byddant efallai'n dymuno parhau i gymryd rhan ynddynt yn y dyfodol
*
*
*
*
Adloniant
Profiadau hamdden pleserus, 'hwyliog', a gaiff eu cyflenwi yn aml yng nghyd-destun gwyliau gweithgareddau neu gynllun gwyliau a all arwain y cyfranogwyr i gymryd rhan yn fwy yn y dyfodol
*
*
*
*
Adnoddau
Yr adnoddau corfforol fel cyfarpar, amgylchedd a dillad sydd eu hangen i gyflenwi gweithgaredd
*
*
*
*
Unigolyn â chyfrifoldeb
Yr unigolyn dynodedig; fel, goruchwyliwr, swyddog dyletswydd, rheolwr llinell, hyfforddwyd gweithredol ar ddyletswydd, arweinydd y rhaglen. Mae sawl term y gellir eu defnyddio i ddisgrifio rôl yr unigolyn â chyfrifoldeb a bydd yn amrywio yn ôl eich sefydliad penodol
*
*
*
*
Adolygiad
Y broses o ailedrych ar y gweithgaredd gyda'r cyfranogwyr a'u galluogi i fyfyrio ar yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni a'i ddysgu; dylai'r adolygiad nodi profiadau cadarnhaol a negyddol; dylid rhannu canlyniadau'r adolygiad ag unigolyn â chyfrifoldeb a'i ddefnyddio i wella'r rhaglen ac ansawdd cyffredinol yr arfer a'r gwasanaeth a gyflenwir
*
*
*
*
Ymdeimlad o berchnogaeth
Mewn perthynas ag ymgysylltiad y cyfranogwyr ym mhob agwedd ar y gweithgaredd/sesiwn, gan gynnwys lefelau addas o ymwneud yn y gwaith cynllunio, trefnu a chynnal y sesiwn ei hun, a hyd yn oed rhywfaint o agweddau ar wneud penderfyniadau ynghylch dewisiadau, gan gymryd ystyriaeth o'r profiad a gallu pawb sy'n gysylltiedig
*
*
*
*
Pobl ifanc
Yn gyffredinol, cyfranogwyr o dan 18 oed, fodd bynnag dylech gyfeirio at bolisïau eich sefydliad