Datblygu a chytuno ar gynllun busnes ar gyfer digwyddiad

URN: PPLEVF13
Sectorau Busnes (Suites): Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol – Ar Gyfer Uwch Gynhyrchwyr - Ebrill 2003
Datblygwyd gan: People 1st
Cymeradwy ar: 01 Ion 2014

Trosolwg

Gellir trin pob digwyddiad fel busnes ynddo'i hun a dylai fod â chynllun busnes cadarn i gefnogi ei holl agweddau allweddol. Dylai'r cynllun busnes ddechrau gyda datganiad cenhadaeth – a fydd yn tarddu o gysyniad a nodau cytunedig y digwyddiad – a chynnwys amcanion fydd yn dangos yn fanylach sut y caiff y genhadaeth hon ei chyflawni. Dylai'r cynllun hefyd ymdrin yn ddigon manwl â:

•               chyllid

•               rheoli a gweinyddu

•               logisteg a gweithrediadau

•               marchnata

•               pobl ac adnoddau

•               nawdd

 

Dylai'r cynllun hefyd ddangos y cylch cynllunio ar gyfer y digwyddiad a sut y caiff ei fonitro a'i werthuso.

 

Argymhellir y Safon Alwedigaethol Genedlaethol ar gyfer Rheolwyr a Chydgysylltwyr Digwyddiadau a phobl eraill sy'n ymwneud â'r camau cynnar yn y gwaith o gynllunio digwyddiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1. adolygu a dadansoddi cysyniad, cwmpas a gofynion y digwyddiad 2. cymryd i ystyriaeth ymchwil berthnasol i'r farchnad 3. negodi a datblygu prif elfennau'r cynllun busnes: 3.1 datganiad cenhadaeth 3.2 nodau ac amcanion 3.3 ffactorau llwyddiant critigol 3.4 cynllunio ariannol 3.5 gweinyddu 3.6 logisteg a gweithrediadau 3.7 marchnata a gwerthu 3.8 pobl ac adnoddau 3.9 gwerthuso'r digwyddiad 3.10 arwain a rheoli 3.11 cylch cynllunio 3.12 nawdd neu refeniw arall 3.13 cynaliadwyedd 4.  sicrhau bod y cynllun: 4.1 yn ymarferol 4.2 yn ariannol hyfyw   4.3 yn gyson â chysyniad, cwmpas a gofynion y digwyddiad 5.  cytuno ar y cynllun busnes gyda rhanddeiliaid allweddol a chydweithwyr 6. cofnodi'r cynllun busnes mewn fformat cytunedig 7. monitro cynnydd o'i gymharu â'r cynllun busnes ar adegau cytunedig a gwneud yr addasiadau angenrheidiol 8. ystyried yr holl ofynion o ran moeseg a chynaliadwyedd

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol

  1. pam mae'n bwysig datblygu cynllun busnes ar gyfer digwyddiad
  2. elfennau allweddol cynllun busnes a phwysigrwydd pob un o'r elfennau hyn
  3. y prosesau sy'n rhan o'r gwaith o ddatblygu a chytuno ar gynllun busnes ar gyfer digwyddiad
  4. pam mae'n bwysig sicrhau bod y cynllun busnes yn gyson â chwmpas a gofynion y digwyddiad
  5. sut y gall ymchwil i'r farchnad gyfrannu at gynllunio busnes
  6. sut i werthuso pa mor ymarferol ac ariannol hyfyw yw cynllun busnes
  7. gwahanol fodelau codi tâl am ddigwyddiadau
  8. pam mae'n bwysig cael cytundeb y prif randdeiliaid a chydweithwyr i gynllun busnes
  9. pam mae'n bwysig ymgorffori unrhyw gynlluniau ar gyfer deunyddiau mewn ieithoedd eraill
  10. y gwahanol fformatau y gellir nodi a chofnodi cynlluniau busnes ynddynt
  11. pam mae'n bwysig monitro cynnydd yn unol â'r cynllun busnes
  12. y dulliau y gallwch eu defnyddio i fonitro cynnydd yn unol â chynllun busnes
  13. y mathau o amrywiannau a all ddigwydd a sut i ymateb iddynt

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector

  1. y prif fathau o ddigwyddiadau a gynhelir yn y sector
  2. gofynion nodweddiadol, a chwmpas nodweddiadol, digwyddiadau yn y sector
  3. y cyfleoedd ar gyfer marchnata a nawdd sydd ar gael yn y sector

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun

  1. y materion a'r cyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd 
  2. hyd a lled eich cyfrifoldebau chi am ddatblygu cynlluniau
  3. sut mae'ch rôl chi'n gysylltiedig â rolau pobl eraill yn eich sefydliad
  4. prif gyfrifoldebau cydweithwyr yr ydych yn gweithio gyda nhw wrth ddatblygu cynllun busnes

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

1. Rydych yn gweithio tuag at weledigaeth glir ar gyfer canlyniad llwyddiannus 2. Rydych yn cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy'n hybu dealltwriaeth 3. Rydych yn rhoi gwybod i bobl yn gyson am gynlluniau a datblygiadau 4. Rydych yn atgyfnerthu'r cysylltiadau rhwng amcanion penodol, meysydd gwaith a nodau strategol 5. Rydych yn rhagweld senarios posibl ar sail dadansoddiad realistig o dueddiadau a datblygiadau 6. Rydych yn defnyddio treiddgarwch strategol i lywio'r ffordd yr ydych yn dewis pobl ac adnoddau 7. Rydych yn blaenoriaethu amcanion ac yn cynllunio gwaith i wneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau 8. Rydych yn cyfrifo risgiau'n gywir, ac yn gwneud darpariaeth fel nad yw digwyddiadau annisgwyl yn atal cyflawni amcanion 9. Rydych yn adnabod materion a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd ac yn cymryd camau priodol

Sgiliau

Rhestrir isod y prif 'sgiliau' generig y mae angen eu cymhwyso yn y Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon. Mae'r sgiliau hyn yn echblyg / ymhlyg yng nghynnwys manwl y Safon a chânt eu rhestru yma fel gwybodaeth ychwanegol. 1. Trefnu gwybodaeth 2. Dadansoddi 3. Cynllunio – cyllid, pobl ac adnoddau 4. Monitro 5. Gwerthuso 6. Negodi 7. Cyfathrebu ysgrifenedig a chyflwyno 8. Craffter busnes

Geirfa

Diffinnir cynaliadwyedd fel ymagwedd barhaus a chytbwys at weithgarwch economaidd, cyfrifoldeb amgylcheddol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol.

Dolenni I NOS Eraill

Mae'r Safon hon yn gysylltiedig â Safonau:

A1   Datblygu a chytuno ar y cysyniad ar gyfer digwyddiad

A2   Ymchwilio i gwmpas digwyddiad a chytuno arno

A3   Rheoli risgiau i'ch sefydliad

A4   Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol

A5   Canfod, negodi a sicrhau lleoliad ar gyfer digwyddiad

A6   Canfod a negodi contractau ar gyfer digwyddiad

B5    Cael nawdd a ffynonellau cyllid eraill ar gyfer digwyddiad

B6    Cynllunio'ch gweithgareddau gwerthu

C1    Cynllunio a gweithredu llwybr critigol ar gyfer digwyddiad

C2    Datblygu a gweithredu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer digwyddiad

C3    Datblygu cynlluniau manwl ar gyfer digwyddiad

C4   Rhoi cynlluniau gweithredol ar waith

C5    Rheoli contractau ar gyfer digwyddiad

C7    Rheoli adnoddau ffisegol

F15  Rheoli'r defnydd o adnoddau ariannol


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Ion 2017

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

People 1st

URN gwreiddiol

PPLEVF13

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr

Cod SOC


Geiriau Allweddol

busnes; cynllun; digwyddiad