Goruchwylio a chefnogi ymarferwyr datblygu cymunedol

URN: JETSCD25
Sectorau Busnes (Suites): Datblygu Cymunedol
Datblygwyd gan: NYA
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2015

Trosolwg


Mae'r safon hon yn ymwneud â rôl cefnogi, tywys a rheoli ymarferwyr datblygu cymunedol sy'n cael eu talu, a rhai nad ydynt yn cael eu talu. 

Mae'r gwerthoedd datblygu cymunedol yn llywio'r agwedd at oruchwyliaeth, arweiniad a chefnogaeth a fynegir yn y safon hon. Dylai goruchwyliaeth baratoi ymarferwyr ar gyfer y materion y bydd yn rhaid iddynt ymdrin â hwy yn eu hymarfer. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i bob ymarferydd datblygu cymunedol sydd mewn rôl oruchwylio neu gefnogi. 

Trefnir y safonau datblygu cymunedol yn chwe maes allweddol:
• Un - deall ac ymarfer datblygu cymunedol 
• Dau - deall cymunedau ac ymgysylltu â nhw 
• Tri - gwaith grŵp a gweithredu ar y cyd 
• Pedwar - cydweithio a gweithio ar draws sectorau 
• Pump - dysgu cymunedol er newid cymdeithasol  
• Chwech - llywodraethu a datblygu sefydliadol 

Mae'r safon hon yn rhan o Faes Allweddol Chwech


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


1 hybu defnydd o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Datblygu Cymunedol i gynnal ymarfer a datblygiad proffesiynol yn eich sefydliad eich hun
2 rhoi systemau ar waith ar gyfer goruchwylio, arfarnu, cynllunio datblygiad unigol ac adrodd oddi mewn i ofynion sefydliadol
3 hwyluso gwaith tîm a systemau cefnogaeth cymheiriaid yn eich sefydliad eich hun 
4 cefnogi a thywys datblygiad proffesiynol parhaus ymarferwyr datblygu cymunedol yn eich sefydliad eich hun 
5 hwyluso ymarferwyr datblygu cymunedol i fyfyrio ar eu harferion gwaith
6 cefnogi ymarferwyr datblygu cymunedol i ddadansoddi eu gwaith a rhoi gwelliannau cytunedig ar waith yn eu rôl a'u hymarfer
7 symbylu ymarferwyr datblygu cymunedol i archwilio eu hanghenion dysgu a chefnogi eu hunain, a nodi sut gellir eu cyflawni
8 tywys ymarferwyr datblygu cymunedol i ddatblygu gwybodaeth fanwl am y cymunedau maen nhw'n gweithio gyda nhw
9 cefnogi ymarferwyr datblygu cymunedol i gael hyd i ffordd drwy'r tensiynau rhwng disgwyliadau cymunedau a chylch gorchwyl a gallu cymunedau
10 cyfeirio ymarferwyr datblygu cymunedol ymlaen at wybodaeth am bolisïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol sy'n cael effaith ar eu hymarfer
11 cefnogi ymarferwyr datblygu cymunedol i gofnodi a dogfennu eu gwaith at ddibenion adrodd a gwerthuso
12 cefnogi ymarferwyr datblygu cymunedol i ddiweddaru eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o dueddiadau a datblygiadau ym maes theori ac ymarfer datblygu cymunedol, a chymhwyso hynny i'w gwaith pob dydd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Y cyd-destun
1 prosesau datblygiadol sy'n hanfodol i fod yn oruchwyliwr ar ymarferwyr datblygu cymunedol
2 materion cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg wrth reoli ymarferwyr datblygu cymunedol 
3 y cyd-destun sefydliadol ar gyfer datblygu cymunedol oddi mewn i bolisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
4 natur, cyfansoddiad a hanes cymunedau lleol
5 ethos a gweithdrefnau eu sefydliad eu hun a fydd yn effeithio ar gymunedau
6 deddfwriaeth sy'n effeithio ar waith gyda grwpiau cymunedol a chymunedau

Adnoddau ar gyfer rheoli ymarfer datblygu cymunedol
7 technegau ar gyfer canfod y sgiliau, yr wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar ymarferwyr datblygu cymunedol
8 sut mae annog perchnogaeth ar ddatblygiad proffesiynol parhaus ymhlith ymarferwyr datblygu cymunedol 
9 ffynonellau cyngor a gwybodaeth arbenigol sy'n berthnasol i ymarferwyr datblygu cymunedol 
10 modelau ar gyfer gwneud penderfyniadau datganoledig a'u haddasrwydd mewn gwahanol sefyllfaoedd

Rheoli ymarferwyr datblygu cymunedol 
11 modelau ar gyfer goruchwylio ymarferwyr yn unigol, mewn grwpiau a chan gymheiriaid
12 polisïau a gweithdrefnau i gefnogi goruchwyliaeth, atebolrwydd a rheolaeth ymarferwyr
13 rheoli amser a chynllunio llwyth gwaith unigol
14 sut mae rheoli tensiynau rhwng gwerthoedd proffesiynol a sefydliadol 
15 defnyddio deunydd gwerthusol wrth gynllunio gwaith tîm a'r sefydliad
16 rôl arweinydd a modelau arweinyddiaeth sy'n berthnasol i arwain tîm
17 pwysigrwydd adfyfyrio'n feirniadol ar ymarfer a defnyddio'r canlyniadau ar gyfer datblygiad proffesiynol a sefydliadol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Seiliwyd datblygu cymunedol ar gyfres o werthoedd sy'n ei osod ar wahân i weithgareddau eraill, a all fod yn gysylltiedig, yn y gymuned. Mae'r gwerthoedd hyn yn greiddiol i ddatblygu cymunedol, ac yn darparu sylfaen ar gyfer pob un o'r safonau.  Y gwerthoedd yw;

1 Cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
2 Gwrthweithio camwahaniaethu
3 Grymuso cymunedol
4 Gweithredu ar y cyd
5 Gweithio a dysgu gyda'n gilydd

Mae'r enghreifftiau canlynol yn dangos sut gallai pob un o'r gwerthoedd datblygu cymunedol lywio ymarfer yn y safon hon.  Nid yw'r gosodiadau hyn yn rhan o'r gofynion asesu.

1 mae gwahaniaethau pŵer rhwng rheolwyr ac ymarferwyr yn cael eu cydnabod yn agored, ac maent yn llywio'r broses o feithrin perthnasoedd gwaith effeithiol
2 mae rheolwyr yn cefnogi ymarferwyr i herio ymddygiad amhriodol tuag at gymunedau, ac agweddau a dulliau amhriodol o ymwneud â nhw
3 mae ymarferwyr yn cyd-drafod eu rôl a'u mewnbwn i gymunedau
4 darperir adnoddau ar gyfer ymarferwyr a'u hannog i fynychu digwyddiadau rhwydweithio
5 cefnogir aelodau cymunedol ac ymarferwyr i gynhyrchu astudiaethau achos ar y cyd i ddathlu eu gweithgareddau a dangos eu heffaith​


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2018

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Learning Skills Improvement Service

URN gwreiddiol

LSICD24

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Cymunedol Gwirfoddol, Grwpiau Cymorth Cymunedol

Cod SOC

3231

Geiriau Allweddol

datblygu cymunedol; ymarferydd datblygu cymunedol; arfer datblygu cymunedol; gwerthoedd datblygu cymunedol; ymchwil datblygu cymunedol; ymgynghori ar ddatblygu cymunedol; grwpiau datblygu cymunedol; dulliau datblygu cymunedol