Paratoi safleoedd tirlenwi i dderbyn gwastraff anadweithiol
URN: EUSWM11
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Gweithrediadau Adnoddau Gwastraff
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
01 Maw 2019
Trosolwg
Mae’r Safon hon yn ymwneud â pharatoi safleoedd tirlenwi i dderbyn gwastraff anadweithiol. Mae’n ymdrin â chyfarwyddo a monitro gweithgareddau peirianegol ac adeiladu ar gyfer paratoi celloedd tirlenwi a chyfleusterau cysylltiedig. Mae’n cynnwys sicrhau bod yr holl waith yn unol â gofynion deddfwriaethol, sicrhau y gwarchodir cyfanrwydd rhwystrau daearegol a bod yr holl waith papur a thystysgrifau yn eu lle.
Mae hyn i reolwyr neu oruchwylwyr safleoedd tirlenwi anadweithiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. sicrhau bod gweithgareddau arfaethedig yn unol â gofynion deddfwriaethol
2. sicrhau bod manylion y manylebau peirianegol wedi’u cytuno â’r bobl briodol cyn dechrau gweithrediadau
3. cadarnhau bod yr adnoddau sy’n ofynnol i weithgareddau peirianneg yn cael eu darparu yn unol â’r fanyleb beirianegol
4. gweithredu gweithdrefnau i sicrhau bod gweithgareddau peirianneg yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol
5. cyfathrebu cynnwys cynigion peirianneg â staff gweithredol ynghylch y gwaith i’w wneud ar adegau priodol
6. cynnal gweithdrefnau i sicrhau bod cofnodion sicrhau ansawdd a pheirianneg safle cywir yn cael eu hanfon ymlaen i’r awdurdod rheoleiddio i gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol
7. cadarnhau bod trefniadau wedi’u gwneud i waith adeiladu gael ei arolygu a’i gymeradwyo gan yr awdurdodau rheoleiddio ar adegau priodol
8. gweithredu gweithdrefnau gweithredol sy’n gwarchod cyfanrwydd rhwystrau daearegol
9. cynnal systemau gwarchod yr amgylchedd yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol
10. sicrhau yr ymdrinnir â damweiniau, digwyddiadau a gollyngiadau ar y safle yn unol â gweithdrefnau rheoleiddiol a sefydliadol
11. sicrhau bod rhaglenni gwaith a chyfarwyddiadau gweithredol ar gyfer paratoi safleoedd tirlenwi yn gyflawn ac yn gywir
12. cyflwyno’r rhaglenni gwaith a’r cyfarwyddiadau gweithredol i’r personél ar y safle ar adegau priodol
13. cadw cofnodion cywir sy’n briodol i’r gwaith mewn systemau sefydliadol cymeradwy
14. dweud wrth gydweithwyr a rheolwyr priodol am unrhyw sefyllfaoedd y mae gofyn rhoi eu sylw iddynt
15. cadw cofnod o’r hyfforddiant i’r holl staff a gyflogir i baratoi safle, mewn systemau sefydliadol cymeradwy
16. ymdrin yn ddi-oed ag unrhyw amgylchiadau nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol
17. unioni materion sy’n atal parhau gweithgareddau gwaith yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
18. cyfeirio materion sydd y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb at y bobl briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
1. y gofynion deddfwriaethol am unrhyw waith adeiladu sy’n digwydd ar y safle
2. unrhyw amodau cytundebol sy’n berthnasol i baratoi celloedd
3. gofynion ar gyfer lleoliad a chyfanrwydd rhwystrau daearegol a’u gwarchod rhag haenau cychwynnol o wastraff anadweithiol
4. pwy i gytuno manylebau peirianegol â hwy
5. gweithdrefnau safle i reoli gweithrediadau paratoi cell
6. systemau rheoli sydd eu hangen i reoli draenio dŵr wyneb a nwy a thrwytholch
7. pwysigrwydd amodau hydro ddaearegol safle
8. gofynion trwydded sy’n berthnasol i amodau hydro ddaearegol
9. caniatâd cynllunio, gofynion trwydded a systemau rheoli amgylcheddol sy’n berthnasol i baratoi safleoedd tirlenwi
10. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gweithrediadau peirianegol a chyflenwad a defnydd yr adnoddau sy’n ofynnol
11. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cyfathrebu â staff gweithredol
12. y gweithdrefnau gweithredol ar gyfer yr holl beiriannau, offer a chyfarpar a ddefnyddir i baratoi safle
13. gofynion cadw cofnodion ar gyfer amodau safle, cynnydd adeiladu, tystysgrifau cwblhau, ymweliadau rheoleiddio, newidiadau i ofynion
14. y sgiliau technegol sydd eu hangen i baratoi’r safle ar gyfer gweithrediadau gwaredu
15. sut mae sicrhau bod y sgiliau gofynnol gan yr holl staff sy’n ymwneud â pharatoi safleoedd tirlenwi
16. sefyllfaoedd y mae angen eu cyfeirio at eraill gan gynnwys damweiniau, digwyddiadau, ymyriadau â gwaith ac at bwy i’w cyfeirio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2022
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Energy & Utility Skills
URN gwreiddiol
WM16
Galwedigaethau Perthnasol
Gwasanaeth Cyhoeddus, Rheolwr Gwastraff
Cod SOC
1255
Geiriau Allweddol
paratoi, gwaith paratoi, tirlenwi, derbyn, gwastraff, cyfleustod, cyfleustodau, atal a rheoli llygredd, gwastraff anawdurdodedig, cyfarpar trin a thrafod gwastraff, gweithrediadau gwaredu