Gosod gorchuddion lloriau tecstilau
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod gorchuddion lloriau tecstilau. Mae’n cynnwys ffitio a gosod gorchuddion lloriau dalennau a theils tecstilau, mewn sefyllfaoedd domestig neu dan gontract
Bydd y safon hon hefyd yn ymwneud â dehongli gwybodaeth, mabwysiadu arferion gwaith diogel, iach ac amgylcheddol gyfrifol, dewis a defnyddio deunyddiau, cydrannau, offer a chyfarpar, yn unol â gofynion y sefydliad sy’n cyfateb i’r gofynion statudol a deddfwriaethol presennol neu’n rhagori arnynt
Mae’r safon hon ar gyfer pobl sy’n gweithio ym maes galwedigaethol gorchuddion lloriau a gall gweithwyr, goruchwylwyr a rheolwyr ei defnyddio
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Dehongli gwybodaeth
P1 dehongli’r wybodaeth am y gwaith a’r adnoddau i gadarnhau ei bod yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
• lluniadau
• manylebau
• rhestrau
• asesiadau risg
• datganiadau dull
• gwybodaeth gweithgynhyrchwyr
Arferion gwaith diogel
P2 cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau swyddogol i wneud y gwaith a chynnal arferion gwaith diogel ac iach am y canlynol:
• dulliau gweithio
• defnyddio cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch yn ddiogel
• defnyddio cyfarpar mynediad yn ddiogel
• defnyddio, storio a thrin deunyddiau, offer a chyfarpar yn ddiogel
• risgiau penodol i iechyd
Dewis adnoddau
P3 dewis faint o adnoddau sydd eu hangen ac ansawdd gofynnol yr adnoddau canlynol ar gyfer y dulliau gweithio:
• deunyddiau
• cydrannau a gosodiadau
• offer a chyfarpar
Lleihau'r risg o ddifrod
P4 cydymffurfio â gweithdrefnau’r sefydliad i leihau'r risg o ddifrod i'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas drwy:
• diogelu'r gwaith a'r ardal o’i gwmpas rhag difrod
• cadw'r ardal waith yn ddiogel, yn glir ac yn daclus
• gwaredu gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth gyfredol
Bodloni gofynion y contract
P5 cydymffurfio â’r wybodaeth yn y contract i osod gorchuddion lloriau tecstilau yn effeithlon yn unol â’r fanyleb ofynnol drwy:
• dangos sgiliau gwaith i wneud y canlynol:
- mesur
- marcio allan
- torri
- uniadu
- ymestyn
- cyfateb
- diogelu
• defnyddio a chynnal a chadw offer llaw ac offer pŵer a chyfarpar ategol
• gosod gorchuddion lloriau dalennau a theils tecstilau, mewn sefyllfaoedd domestig neu dan gontract, yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio ar yr arwynebau a’r mannau canlynol: - llorweddol
- goleddfol
- grisiog
- ardaloedd â siâp a chilfwadau
• gosod gorchuddion lloriau dalennau a theils tecstilau, mewn sefyllfaoedd domestig neu dan gontract, yn unol â’r cyfarwyddiadau gweithio ar y canlynol: - lloriau soled
- lloriau pren
- lloriau crog
- grisiau
Amser a neilltuwyd
P6 cwblhau'r gwaith o fewn yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd yn unol â gweithdrefnau'r sefydliad, y rhaglen waith ac i ddiwallu anghenion galwedigaethau eraill a/neu'r cleient
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
P1 Dehongli gwybodaeth
K1 pam mae gweithdrefnau’r sefydliad wedi cael eu datblygu a sut maent yn cael eu rhoi ar waith
K2 mathau o wybodaeth, beth yw eu ffynhonnell a sut i'w dehongli mewn perthynas â:
• lluniadau
• manylebau
• rhestrau
• asesiadau risg
• datganiadau dull
• data electronig
• gwybodaeth gweithgynhyrchwyr
• deddfwriaeth a rheoliadau cyfredol sy’n rheoli adeiladau
K3 pwysigrwydd rhoi gwybod am wybodaeth anghywir a'i chywiro
K4 yr amrywiaeth o wasanaethau, offer a systemau digidol perthnasol a sut maent yn cael eu defnyddio
P2 Arferion gwaith diogel
K5 gwybodaeth ar gyfer deddfwriaeth berthnasol, gyfredol a chanllawiau swyddogol a sut mae’n cael ei chymhwyso
K6 y mathau o gyfarpar diffodd tân a sut a pha bryd mae defnyddio'r rhain mewn perthynas â:
• dŵr
• CO2
• ewyn
• powdr
K7 sut dylid ymateb i argyfyngau yn unol ag awdurdodiad y sefydliad a sgiliau personol o ran y canlynol:
• tanau, gollyngiadau ac anafiadau
• argyfyngau sy'n ymwneud â gweithgareddau galwedigaethol
• nodi deunyddiau sy’n cynnwys asbestos a rhoi gwybod amdanynt
K8 gweithdrefnau diogelwch y sefydliad ar gyfer offer, cyfarpar ac eiddo personol, o ran y canlynol:
• gweithiwr
• safle
• gweithle
• cerbydau
• cwmni
• cwsmer
• y cyhoedd
K9 sut mae rhoi gwybod am risgiau a pheryglon a nodwyd gan y canlynol:
• asesiad risg
• dulliau gweithio
• asesiad personol
• gwybodaeth dechnegol gweithgynhyrchwyr
• rheoliadau statudol
• canllawiau swyddogol
• Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
K10 y gweithdrefnau ar gyfer adrodd am ddamweiniau a phwy sy'n gyfrifol am wneud hynny
K11 pam, pryd a sut y dylid defnyddio’r cyfarpar rheoli iechyd a diogelwch a nodir gan egwyddorion atal mewn perthynas â’r canlynol:
• mesurau diogelu ar y cyd
• cyfarpar diogelu personol (PPE)
• cyfarpar diogelu anadlol (RPE)
• awyru lleol sy'n gwacáu mygdarth (LEV)
K12 sut mae cydymffurfio ag arferion gweithio sy'n amgylcheddol gyfrifol er mwyn bodloni deddfwriaeth a chanllawiau swyddogol cyfredol
K13 gweithdrefnau’r sefydliad wrth ddelio â damweiniau posibl, peryglon i iechyd a'r effaith ar yr amgylchedd wrth weithio yn y gweithle mewn perthynas â'r canlynol:
• dan lefel y ddaear
• mewn mannau cyfyng
• ar uchder
• offer a chyfarpar
• deunyddiau a sylweddau
• symud a storio deunyddiau drwy eu codi a’u cario a defnyddio cyfarpar codi mecanyddol
P3 Dewis adnoddau
K14 pam mae nodweddion, ansawdd, defnydd, cynaliadwyedd, cyfyngiadau a diffygion sy'n gysylltiedig â'r adnoddau yn bwysig, a sut dylid cywiro diffygion
K15 gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer dewis adnoddau, pam maen nhw wedi cael eu datblygu a sut mae eu defnyddio
K16 sut mae cadarnhau bod yr adnoddau a’r deunyddiau’n cydymffurfio â’r fanyleb
K17 sut dylid defnyddio’r adnoddau a sut mae rhoi gwybod am unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig â'r adnoddau mewn perthynas â’r canlynol:
• gorchuddion lloriau dalennau a theils tecstilau
• adlynion:
- tâp
- hylif
• haenau gwaelodol tecstilau
• ymylon a thrimiau
• ymylon stepiau (gwaith contract)
• deunyddiau amddiffyn
• gosodiadau, ffitiadau a chydrannau cysylltiedig
• offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
K18 sut mae nodi’r peryglon sy'n gysylltiedig â’r adnoddau a'r dulliau gweithio a sut mae goresgyn y rhain
K19 dulliau o gyfrifo niferoedd, hyd a gwastraff sy'n gysylltiedig â'r dull a’r weithdrefn ar gyfer gosod gorchuddion lloriau tecstilau
P4 Lleihau'r risg o ddifrod
K20 sut mae diogelu’r gwaith a’r ardal o’i gwmpas rhag difrod a phwrpas diogelu rhag gweithgareddau cyffredinol yn y gweithle, galwedigaethau eraill a thywydd garw
K21 sut mae lleihau’r difrod i adeiledd presennol yr adeilad
K22 pam a sut mae’n rhaid gwaredu gwastraff yn ddiogel yn unol â’r canlynol:
• cyfrifoldebau amgylcheddol
• gweithdrefnau’r sefydliad
• gwybodaeth gweithgynhyrchwyr
• rheoliadau statudol
• canllawiau swyddogol
K23 pam mae’n bwysig cynnal ardal waith ddiogel, glir a thaclus
P5 Bodloni manyleb y contract
K24 sut i fodloni manyleb y contract mewn perthynas â’r canlynol:
• pam mae angen gwirio a sicrhau bod arwynebau isloriau yn addas ar gyfer gosod gorchuddion lloriau tecstilau
• pam ei bod yn bwysig gwerthuso cynnwys lleithder y llawr
• pam ei bod yn bwysig ymaddasu deunyddiau a chynhyrchion
• pam ei bod yn bwysig sicrhau bod yr haenau gwaelodol cywir wedi cael eu gosod
• sut mae gosod gorchuddion lloriau dalennau a theils tecstilau, mewn sefyllfaoedd dan gontract a domestig, ar gyfer:
- arwynebau llorweddol, goleddfol a grisiog
- arwynebau â siâp a chilfwadau
- llinellau a phwyntiau gosod allan
- gyda chyfeiriad cywir y peil
• sut mae gosod gorchuddion lloriau dalennau a theils tecstilau, mewn sefyllfaoedd dan gontract a domestig, ar y canlynol: - lloriau soled
- lloriau pren
- lloriau crog
- grisiau
- grisiau syth
- grisiau troellog
• sut mae gosod ymylon a thrimiau
• sut mae gosod a diogelu ymylon stepiau (gwaith contract)
• pam ei bod yn bwysig amddiffyn gorchuddion lloriau gorffenedig
• pam mae angen nodi a chanfod a oes gwres dan y llawr yn y fan a’r lle ac ymateb yn briodol
• pam ei bod yn bwysig nodi a phenderfynu pryd mae angen sgiliau a gwybodaeth arbenigol, ac adrodd yn briodol ynghylch hyn
• perthnasedd asesiad a’i arwyddocâd
• pam bod angen deall gofynion penodol ar gyfer strwythurau o ddiddordeb arbennig, adeiladwaith traddodiadol, adeiladau anodd eu trin ac arwyddocâd hanesyddol
• sut mae gweithio gyda pheiriannau ac offer, o’u cwmpas ac yn agos iawn atynt
• sut mae gweithio mewn mannau uchel gan ddefnyddio cyfarpar mynediad
• sut i ddefnyddio pob math o offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol
• sut a pham mae angen i'r gweithiwr sicrhau bod yr holl offer llaw, offer pŵer a chyfarpar ategol yn cael eu cynnal a’u cadw
K25 pwysigrwydd gwaith tîm a chyfathrebu
K26 pwysigrwydd ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles
K27 pwysigrwydd defnyddio Tegwch, Cynhwysiant a Pharch wrth ddelio ag eraill
K28 anghenion galwedigaethau eraill sy'n gysylltiedig â gosod gorchuddion lloriau tecstil
P6 Amser a neilltuwyd
K29 y rhaglen ar gyfer gwneud y gwaith, gan gynnwys yr amser a amcangyfrifwyd ac a neilltuwyd a pham y dylid cadw at derfynau amser
K30 y mathau o siartiau cynnydd, amserlenni ac amseroedd a amcangyfrifwyd, a gweithdrefnau’r sefydliad ar gyfer rhoi gwybod am amgylchiadau a fydd yn effeithio ar y rhaglen waith