Gweithio gyda gwirfoddolwyr, gweithwyr cymorth a rheolwyr
URN: CCSDL17
Sectorau Busnes (Suites): Arweinyddiaeth Ddawns
Datblygwyd gan: Creative & Cultural Skills
Cymeradwy ar:
2011
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â'r perthnasoedd y gallwch eu meithrin i gefnogi'ch rhaglen ddawns.
Gallai arweinydd dawns chwilio am gymorth o’r mathau canlynol: derbynnydd neu wirfoddolwr i groesawu pobl a sicrhau eu bod nhw'n mynd adref yn ddiogel; gweithiwr cymorth i gymryd rhan yn y sesiwn gyda golwg ar helpu cyfranogwr anabl i gymryd rhan yn y sesiwn wrth ei bwysau; gwirfoddolwr i ffilmio sesiwn neu dynnu lluniau ynddi a sicrhau’r cydsyniad perthnasol i wneud hynny; cynorthwy-ydd marchnata i helpu i hysbysebu'r sesiynau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- annog cyfnewid gwybodaeth o’r ddeutu a pharhau i ysgogi'r gweithwyr sy'n cefnogi eich rhaglen ddawns
- diffinio rolau a disgwyliadau eich tîm cefnogi yn glir
- cydnabod y cymorth sy'n cael ei roi a gwerthuso'i effeithiolrwydd drwy gydol y rhaglen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut mae defnyddio a chynnal y perthnasoedd rydych wedi'u meithrin yn y broses gynllunio i wella darpariaeth eich sesiynau dawns
- sut mae cydnabod y cymorth a ddarparwyd i chi, pwyso a mesur a yw'n cyfateb i'r hyn a gynlluniwyd a datblygu dull hyblyg o ymateb i ffynonellau cymorth annisgwyl neu ddiffyg cymorth
- pwysigrwydd diffinio rolau cefnogi cyn i'r rhaglen ddawns ddechrau ac ailedrych ar y rolau hyn drwy gydol y rhaglen ddawns a'u haddasu lle bydd angen
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Sgiliau Creadigol a Diwylliannol
URN gwreiddiol
CCSDL17
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Celfyddydau Perfformio
Cod SOC
Geiriau Allweddol
arweinyddiaeth ddawns, rhaglenni dawns, dawns cymunedol, gwirfoddolwyr