Fe'u datblygir
gan Sefydliadau Pennu Safonau sy'n ymgynghori â chyflogwyr a rhanddeiliaid
eraill ar draws pob un o wledydd y DU, (yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a
Lloegr). Mae'r broses ymgynghori hon yn caniatáu i unrhyw ofynion penodol gael
eu hystyried gan bob un o’r gwledydd, a'r canlyniad yw set o safonau
galwedigaethol cenedlaethol sy'n addas i'w defnyddio ledled y DU. Mae’r SGC,
sydd mewn fformat cyffredin, yn cael eu cymeradwyo gan y bedair gwlad a bydd y
cynnwys yn cael ei archwilio gan SQA Accreditation. Mae gan bob SGC ddyddiad
cyhoeddi sy’n dangos pryd y cafodd ei gymeradwyo, a rhestrir y SGC mwyaf
cyfredol yn y basdata hwn. Mae yna hefyd
ddyddiad adolygu tebygol ac fe'i defnyddir fel canllaw i bennu pa bryd y bydd
angen eu hadolygu a chesglir adborth gan randdeiliaid i ddylanwadu ar pryd y
comisiynir adolygiadau.
Er bod SGC yn
cael eu datblygu fel mesurau cymhwysedd unigol, cânt eu grwpio yn Setiau sy'n
nodi'r sector y maent yn perthyn iddo ac mae tua 900 o setiau ar hyn o bryd,
gyda bron i 23,000 o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol unigol. Maent yn
cwmpasu ystod eang o sectorau.
Lle nodir bod
angen cyfieithu'r SGC i'r Gymraeg, bydd hynny yn cael ei wneud ac mae tua 1,900
o SGC ar y gronfa ddata wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg.
Gellir
defnyddio SGC ar gyfer datblygu sgiliau a gwybodaeth alwedigaethol. Er
enghraifft, trosglwyddo'n uniongyrchol i gymwysterau galwedigaethol a
chymwysterau eraill, llywio cynnwys
rhaglenni hyfforddi, darparu mesurau ar gyfer cymhwysedd yn y gweithle a
dylanwadu ar ddisgrifiadau swyddi.
Fel enghraifft,
mae 1 SGC yn cyfateb yn uniongyrchol i 1 uned o gymhwyster galwedigaethol cenedlaethol
SVQ/NVQ, a defnyddir y rhain i ddatblygu Cymwysterau y gellir eu cynnig yn eu
tro drwy gyrff dyfarnu.
Ceir gwybodaeth
ynglŷn â pha gyrff dyfarnu sy’n gweithredu yn y gwahanol wledydd isod:
Cymru:
Cymwysterau Cymru https://www.cymwysteraucymru.org/cymraeg
(Mae
Cymwysterau Cymru yn rheoleiddio cymwysterau, ac eithrio graddau, yng Nghymru.)
Gogledd
Iwerddon: Council for the Curriculum, Examinations and Assessment (CCEA) http://ccea.org.uk
(Mae CCEA yn
gorff addysgol unigryw yn y DU sy’n dwyn ynghyd y tri maes – cwricwlwm,
arholiadau ac asesu yng Ngogledd Iwerddon.)
Lloegr:
Fframwaith Cymwysterau Rheoleiddiedig (FfCRh/RQF))
https://www.gov.uk/find-a-regulated-qualification
(Mae FfCRh yn
helpu pobl i ddeall yr holl gymwysterau rydym yn eu rheoleiddio, galwedigaethol
a chyffredinol, yn Lloegr, a sut maent yn perthyn i’w gilydd.)
Yr Alban:
Scottish Qualifications Authority Accreditation (SQA Accreditation)
https://accreditation.sqa.org.uk/accreditation/home
(O dan
ddeddfwriaeth yr Alban, SQA Accreditation sy’n sicrhau ansawdd y cymwysterau a
gynigir yn yr Alban trwy gymeradwyo cyrff dyfarnu ac achredu eu cymwysterau.
Gwnânt hyn drwy reoleiddio’r cyrff dyfarnu a’u cymwysterau yn erbyn gofynion
rheoleiddio cyhoeddedig.)
Isod ceir rhai dolenni
sy'n rhoi cefndir i’r defnydd o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.
Cyflwyniad i'r
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
https://www.youtube.com/watch?v=yn-vbu22PxI
(Scott
Waddington SA Brains – Cyflwyniad i’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol)
Defnyddio
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol https://www.youtube.com/watch?v=GWq1ex6KNaM
(Rob Jones –
Defnyddio Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol)
Astudiaeth
Achos Cyflogwr 1 https://www.youtube.com/watch?v=pSPPiBNFkSO
(Gofal
Deintyddol Castell Nedd /Neath Dental Care – astudiaeth achos cyflogwr)
Astudiaeth
Achos Cyflogwr 2 https://www.youtube.com/watch?v=CdQPyHwNi6Y
(Trefnant
Garage – astudiaeth achos cyflogwr)
Astudiaeth
Achos Cyflogwr 3 https://www.youtube.com/watch?v=bfHL39-EYHY
(BBC – astudiaeth
achos cyflogwr)